Cwpan FA Lloegr: Caerliwelydd 3-4 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Uchafbwyntiau: Caerliwelydd 3-4 Caerdydd

Mae Caerdydd trwodd i bedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr ar ôl iddyn nhw drechu Caerliwelydd mewn gêm ailchwarae llawn cyffro nos Fercher.

Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl saith munud, gydag ergyd Nathan Thomas o 18 llath yn drech na golwr Caerdydd, Alex Smithies.

Ond roedd yr Adar Gleision yn gyfartal yn fuan wedi hynny wrth i Aden Flint benio i'r rhwyd o dafliad Will Vaulks, cyn i foli Josh Murhpy eu rhoi ar y blaen cyn hanner amser.

Sgoriodd Flint ei ail gôl ar ddechrau'r ail hanner, cyn i'r tîm cartref daro 'nôl yn o funudau'n unig yn ddiweddarach trwy ergyd Harry McKirdy.

Llwyddodd Danny Ward i adfer mantais dwy gôl Caerdydd wedi 57 munud, ond fe ddaeth Caerliwelydd yn ôl unwaith eto gyda gôl arall gan McKirdy.

Roedd y gêm wreiddiol rhwng y ddau dîm yn Stadiwm Dinas Caerdydd wedi gorffen yn 2-2.

Bydd Caerdydd yn herio Reading oddi cartref yn y rownd nesaf ar 25 Ionawr.