'Cynnydd sylweddol' yng nghlwy'r pennau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
BrechiadauFfynhonnell y llun, BSIP

Mae swyddogion iechyd yng Nghymru yn galw ar bobl i gael eu brechu gyda phigiadau MMR yn dilyn "cynnydd sylweddol" mewn adroddiadau o achosion o glwy'r pennau.

Maen nhw'n galw ar fyfyrwyr yn arbennig i gael eu brechu.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, roedd 2,695 o adroddiadau o glwy'r pennau yng Nghymru yn 2019, sydd bum gwaith yn fwy na'r flwyddyn flaenorol.

Dywed meddygon fod cynnydd mewn achosion bob tua saith mlynedd, ac mae'r cynnydd diweddar yn dod wedi nifer o flynyddoedd pan roedd nifer yr achosion yn gymharol isel.

Prifysgolion

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae rhai prifysgolion yn rhybuddio myfyrwyr i gael dau frechiad MMR fel amddiffyniad yn erbyn y clwy'.

Roedd 519 adroddiad o glwy'r pennau ar hyd Cymru yn 2018, un yn llai na'r ffigwr am 2017.

Ond dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod "cynnydd sylweddol" wedi bod y llynedd.

Roedd y cynnydd mwyaf mewn adroddiadau o achosion yng Nghaerdydd ag Abertawe, ble mae nifer fawr o fyfyrwyr yn byw.

Ffynhonnell y llun, Joe Amon
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid i dros 95% o'r boblogaeth fod wedi eu brechu er mwyn gwarchod y boblogaeth rhag afiechydon, yn ôl arbenigwyr

Wrth edrych ar y canlyniadau mewn ardaloedd cynghorau lleol, roedd 764 adroddiad o achosion o'r clwy' yng Nghaerdydd - sydd yn 209 achos ymhob 100,000 o'r boblogaeth.

Mae hyn bron yn naw gwaith yn fwy o gynnydd ar ffigyrau 2018, pan roedd 87 adroddiad.

Yn Abertawe, fe gafwyd 385 adroddiad o achosion, sydd yn 156 ymhob 100,000 o'r boblogaeth - sef saith gwaith yn fwy na'r 55 achos a gofnodwyd yn 2018.

Cafwyd y nifer isaf o achosion yn Sir Benfro (34 achos, neu 27 ymhob 100,000), Ynys Môn (21 achos, neu 30 ymhob 100,000) a Cheredigion (26 achos - sef 35 ymhob 100,000).

Cynnydd ar draws y wlad

Ond fe welodd bob rhan o Gymru gynnydd yn niferoedd yr achosion, ac fe effeithiodd clwy'r pennau fwyaf ar y rhai oedd rhwng 10 a 29 oed.

Mae swyddogion wedi pwysleisio mai achosion posib o'r clwy' sydd wedi eu cofnodi yma, a bod nifer yr achosion sydd wedi eu cadarnhau yn gallu bod yn dra gwahanol.

Fe fydd meddyg teulu yn cofnodi achos posib, a dim ond ar ôl cynnal profion mae modd cael cadarnhad pendant.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae feirws clwy'r pennau yn heintus iawn ac yn gallu lledu drwy'r poer

Dywedodd Dr Brendan Mason o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Nid yw'n anarferol i weld cynnydd mewn adroddiadau o glwy'r pennau ymysg myfyrwyr yn fuan ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd.

"Rydym yn parhau i gadw llygad ar nifer yr adroddiadau yr ydym yn ei dderbyn, ond nid oes un achos ble mae llawer iawn o bobl wedi eu heffeithio ar yr un pryd wedi digwydd hyd yn hyn.

"Rydym yn ymwybodol fod rhai prifysgolion yn rhybuddio eu myfyrwyr am glwy'r pennau, ac fe fyddwn yn annog myfyrwyr i sicrhau eu bod yn derbyn dau ddos o MMR fel amddiffyniad yn erbyn yr afiechyd."

Mae un dos o MMR yn amddiffyn tua 65% o'r boblogaeth yn erbyn yr afiechyd, a'r ail ddos yn codi'r ganran i 85%.

Mae symptomau yn cynnwys chwydd ar wynebau yn dilyn sawl dydd o wres uchel, cur pen, blinder, poen yn y cyhyrau, a diffyg chwant bwyd.