Plaid Cymru'n awgrymu trawsnewid trethi pe bai mewn pŵer

  • Cyhoeddwyd
Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price fod angen i'r blaid "fod yn fwy creadigol" ar drethi

Byddai Plaid Cymru yn ystyried cael gwared ar dreth cyngor a chyfraddau busnes pe bai'n ffurfio Llywodraeth Cymru yn 2021, yn ôl eu harweinydd.

Dywedodd Adam Price y byddai cyflwyno treth newydd ar eiddo yn eu lle yn gallu ariannu toriad o 3c i dreth incwm a darparu £300m yn ychwanegol ar gyfer addysg.

Mewn araith yn Llanelli yn ddiweddarach ddydd Iau bydd yn dweud bod angen i Gymru fuddsoddi mwy mewn addysg.

Mae Mr Price yn ceisio dangos fod gan Blaid Cymru syniadau arloesol wrth i etholiad nesa'r Cynulliad yn 2021 nesáu.

Ar hyn o bryd mae gan y blaid 10 sedd yn y Cynulliad - yr un nifer â'r Ceidwadwyr a 19 yn llai na Llafur.

Yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru mae Cymru'n gwneud £1.4bn y flwyddyn o dreth cyngor ac £1.1bn o gyfraddau busnes.

'Mwy creadigol'

Mae Mr Price yn credu y byddai cynyddu treth incwm yn atal busnesau a gweithwyr rhag sefydlu eu hunain yng Nghymru.

Yn ei araith yn ddiweddarach bydd Mr Price yn dweud: "Byddai £300m yn gynnydd o tua 10% yn y gyllideb addysg, fyddai'n sylweddol - a byddai cynnydd o 1c yn nhreth incwm yn cyflawni hynny.

"Ond yna, pam fyddech chi'n gweithio neu'n sefydlu busnes yng Nghaerdydd pan rydych chi'n gallu gwneud hynny ym Mryste a thalu llai o dreth?

"Felly mae'n rhaid i ni fod yn fwy creadigol.

"Fe allwn ni, er enghraifft, gael gwared ar gyfraddau busnes a threth cyngor - dwy dreth annheg sydd wedi'u dylunio'n wael - a chael treth eiddo newydd i gymryd eu lle."