Ceffyl wedi'i achub o'r ffordd a'i roi ar fws yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd aelodau'r cyhoedd i helpu ceffyl oedd yn rhydd ar ffordd brysur yng Nghaerdydd nos Iau, cyn iddo gael ei gymryd i ddiogelwch ar fws.
Roedd yr anifail yn crwydro ar hyd yr A48 ym Mhentwyn, gan achosi grŵp o yrwyr i stopio eu ceir er mwyn ei helpu.
Cafodd yr heddlu eu galw am 18:30 a bu'n rhaid cau'r ffordd tra roedd y ceffyl yn cael ei symud.
Fe wnaeth gyrrwr bws stopio ac awgrymu y gallai fynd â'r ceffyl i rywle diogel, gan gymryd yr anifail i storfa fysiau'r ddinas.
Daeth y perchnogion i gasglu'r anifail yn ddiweddarach.
Dywedodd cwmni Bws Caerdydd bod y bws "bellach 'nôl yn ei stabl, ond angen ei lanhau!".