Dyn yn cyfaddef iddo ladd dynes yn ei fflat ym Mhontypridd

  • Cyhoeddwyd
Sarah HassallFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Sarah Hassall ei bod yn "ffrind gorau" iddyn nhw

Mae dyn wedi cyfaddef iddo ladd dynes yn ei fflat ym Mhontypridd, wedi i'r ddau gwrdd ar noson allan.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Sarah Hassall, 38, yn fflat Brian Manship, 37, ym mis Hydref y llynedd.

Bu Ms Hassall yn gweithio i'r Awyrlu a'r Peirianwyr Brenhinol am 14 o flynyddoedd.

Plediodd Manship yn euog i gyhuddiad o'i llofruddio pan ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe drwy gyswllt fideo ddydd Gwener.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 30 Mawrth.

Teyrnged

Mewn teyrnged iddi, dywedodd teulu Ms Hassall: "Ar ôl tyfu i fyny yn y cartref teuluol yn Chelmsford, fe wasanaethodd Sarah am 14 o flynyddoedd yn yr Awyrlu a'r Peirianwyr Brenhinol.

"Canolbwynt ei gyrfa oedd ei hymroddiad i wasanaethau achub mynydd, ac fe gynrychiolodd ei hunedau mewn cystadlaethau dringo mynydd a rhedeg."

Ychwanegodd ei gŵr: "Sarah oedd fy ffrind gorau ac fe gyffyrddodd bywydau llawer iawn mwy ar hyd y daith.

"Rydym yn galaru ei marwolaeth ond yn ddiolchgar am y cyfnod byr a gawsom yn ei chwmni."