Cwpan Her Ewrop: Dreigiau 47-5 Enisei
- Cyhoeddwyd
Mae'r Dreigiau wedi sicrhau lle yn rownd wyth olaf Cwpan Her Ewrop ar ôl curo Enisei 47-5 yn Rodney Parade.
Sgoriodd y tîm cartref saith o geisiau i sicrhau pwynt bonws allweddol a gorffen yn ail i Castres yn nhabl Grŵp 1.
Roedd y Dreigiau hanner ffordd at sicrhau'r pum pwynt llawn cyn diwedd yr hanner cyntaf wedi ceisiau Ross Moriarty a Jared Rosser.
Sgoriodd Bjorn Basson i'r tîm o Rwsia i'w gwneud hi'n 14-5 ar yr egwyl.
Ond roedd yna geisiau pellach i'r Dreigiau yn yr ail hanner gan Harrison Keddie, Tyler Morgan, Aaron Wainwright a dau gan Adam Warren.
Gyda'r fuddugoliaeth a'r pwynt bonws yn sicr, roedd safle terfynol y Dreigiau'n dibynnu ar ganlyniad y gêm rhwng Caerwrangon a Castres, ond yn ornest agos iawn tan bron y chwiban olaf.
Pe bai Caerwrangon wedi curo, byddai'r Dreigiau wedi bod ar frig grŵp oedd wedi ymddangos yn un heriol i'r tîm o Gymru.
Ond yna gyrhaeddodd newyddion o Gaerwrangon bod y tîm o Ffrainc wedi ennill, a'r sgôr terfynol yn 27-33.
Castres felly sy'n gorffen y gemau grŵp ar y brig gyda 23 o bwyntiau, a'r Dreigiau'n ail gyda 20 o bwyntiau.