Cwpan Her Ewrop: Gleision 64-3 Calvisano
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gleision allan o Gwpan Her Ewrop er gwaethaf buddugoliaeth swmpus ar Barc yr Arfau brynhawn Sadwrn yn erbyn Calvisano.
Roedd y tîm cartref wedi sicrhau'r pwynt bonws ar ôl 20 munud diolch i ddau gais gan Lewis Jones, ac un yr un gan Ethan Lewis ac Aled Summerhill.
Cafwyd pumed cyn yr egwyl wrth i Olly Robinson groesi'r llinell, gyda'r maswr Jason Tovey yn trosi pob un o'r ceisiau.
Parhau wnaeth goruchafiaeth y Gleision yn yr ail hanner gyda Shane Lewis Williams, Lloyd Williams a Will Boyde yn sgorio ceisiau pellach.
Cwblhaodd Jones ei hat-tric cyn i Lloyd Williams gael ei ail gais yn symudiad olaf y gêm.
Ond ofer oedd eu hymdrechion, gan fod angen i'r Gleision orffen yn ail yn y grŵp i gael gobaith o gyrraedd rownd nesaf y gystadleuaeth.
Er mwyn i hynny ddigwydd roedd yn rhaid i Pau golli gartref yn erbyn Caerlŷr, ond y Ffrancwyr aeth â hi o 24-17 er mwyn dal eu gafael ar yr ail safle.