Y Bencampwriaeth: Birmingham 1-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Lee TomlinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lee Tomlin oedd sgoriwr unig gôl Caerdydd

Llwyddodd Caerdydd i sicrhau pwynt ar ôl brwydro nôl yn yr ail hanner oddi cartref yn erbyn Birmingham.

Roedd y tîm cartref ar y blaen ar ôl dim ond pum munud wrth i'r chwaraewr canol cae 16 oed, Jude Bellingham, ganfod ei hun yn y lle iawn ar yr adeg iawn i sgorio o gic gornel.

Ac fe gawson nhw'r gorau o'r cyfleoedd eraill yn yr hanner cyntaf hefyd, gyda Jeremie Bela yn taro'r trawst a golwr Caerdydd Alex Smithies yn gorfod arbed yn dda i rwystro Bellingham rhag cael ail.

Roedd Lee Tomlin yn meddwl ei fod wedi unioni'r sgôr ar ddechrau'r ail hanner wedi iddo roi'r bêl yng nghefn y rhwyd, ond chafodd y gôl mo'i chaniatáu oherwydd camsefyll.

Doedd dim rhaid iddo aros rhy hir i ddathlu fodd bynnag, wrth iddo benio ar ôl ychydig dros awr o chwarae i ddod â'r Adar Gleision yn gyfartal.

Cafwyd cyfleoedd hwyr i'r ddau dîm, gyda Tomlin yn taro'r postyn, ond fe orffennodd yn gyfartal gan olygu bod Caerdydd yn parhau i golli tir ar y timau yn y chwech uchaf.