Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-0 Woking
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi codi ymhellach o safleoedd y cwymp yn y Gynghrair Genedlaethol yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus dros Woking.
Roedd y Dreigiau ar y blaen o fewn 15 munud diolch i ergyd wych Luke Summerfield ar ei droed chwith o du allan i'r cwrt cosbi.
Methodd JJ Hooper gyfleoedd da i ddyblu mantais y tîm cartref, cyn i James Jennings weld ergyd yn cael ei chlirio oddi ar y llinell.
Ond roedd y Dreigiau yn ddiolchgar i'w golwr Rob Lainton ar ddiwedd yr hanner, wrth iddo arbed yn dda o beniad Jake Hyde i'w cadw nhw ar y blaen ar yr egwyl.
Daeth ail gôl Wrecsam o fewn dau funud i'r ail hanner, gyda'r chwaraewr canol cae Dan Jarvis yn sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb ers arwyddo o Stoke yr wythnos hon.
Fe aeth prynhawn Woking o ddrwg i waeth wrth i Jamal Loza gael ail gerdyn melyn a chael ei anfon o'r cae gydag 20 munud i fynd am ddeifio yn y cwrt cosbi.
Ac fe seliwyd y fuddugoliaeth gydag 10 munud i fynd gydag ail gôl y prynhawn i Summerfield, wrth iddo lwyddo gyda chic o'r smotyn.