Cwpan Her Ewrop: Gwyddelod Llundain 14-33 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Scarlets yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Scarlets wedi sicrhau eu lle yn rownd wyth olaf Cwpan Her Ewrop ar ôl sicrhau'r fuddugoliaeth pwynt bonws yr oedden nhw ei hangen yn erbyn Gwyddelod Llundain.

Er i Albert Tuisue sgorio cais cynnar i'r tîm cartref, fe wnaeth Corey Baldwin, Dan Jones a Kieran Hardy daro yn ôl i'r Scarlets i sicrhau mantais o 21-7 ar yr egwyl.

Sicrhawyd y pwynt bonws gyda chais gosb cyn i Steff Evans groesi am bumed i'r rhanbarth o Gymru.

Er i Tuisue sgorio ail gail yn hwyr yn y gêm, doedd hynny ddim yn ddigon i fygwth newid y canlyniad.

Mae'n golygu fod y Scarlets yn gorffen yn ail yn y grŵp, ond fel un o'r tri thîm gorau i wneud hynny maen nhw drwyddo i'r rownd nesaf.

Ond maen nhw nawr yn wynebu taith i Toulon - tîm wnaeth eu trechu ddwywaith yn y grŵp - yn y chwarteri.

Mae'r Dreigiau hefyd drwyddo i rownd yr wyth olaf, gan wynebu Bryste oddi cartref, tra bod Caerlŷr yn herio Castres a Bordeaux yn wynebu Caeredin.