Cwpan Pencampwyr Ewrop: Munster 33-6 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Gorffennodd y Gweilch eu hymgyrch yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop eleni gyda cholled arall wrth iddyn nhw gael eu trechu'r gyfforddus gan Munster.
Dechreuodd y tîm o Gymru yn gryf ac roedden nhw chwe phwynt ar y blaen ar ôl chwarter awr diolch i ddwy gic gosb gan Luke Price.
Methodd Cai Evans gyfle i ymestyn y fantais ymhellach gyda chic gosb o bellter, cyn i'r tîm cartref fynd ar blaen am y tro cyntaf ar ôl hanner awr yn dilyn cais CJ Stander a throsiad JJ Hanrahan.
Cafodd y bwlch ei ymestyn ar ddiwedd yr hanner cyntaf, gyda blaenwyr Munster yn gwneud gwaith caled unwaith eto a Stephen Archer yn tirio dan y pyst i adael trosiad hawdd i Hanrahan.
Parhau wnaeth goruchafiaeth Munster yn yr ail hanner ac o fewn yr awr roedden nhw wedi sicrhau'r pwynt bonws diolch i geisiau gan Connor Murray a Craig Casey, cyn i Stander gael ei ail gais yn y munudau olaf.
Er gwaethaf y fuddugoliaeth roedd Munster eisoes yn gwybod nad oedden nhw bellach yn gallu cyrraedd rownd wyth olaf y gystadleuaeth chwaith.
Ond mae'r canlyniad yn golygu bod tymor siomedig y Gweilch yn parhau, gydag ond un fuddugoliaeth mewn 16 gêm yn y gynghrair ac yn Ewrop.