Pryder ffermwyr am gynllun plannu 20 miliwn o goed
- Cyhoeddwyd
Mae gan lywydd Undeb Amaethwyr Cymru "bryderon mawr" am gynlluniau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i blannu dros 20 miliwn o goed dros 10 mlynedd.
Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Glyn Roberts fod ganddo ofnau y bydd tir amaethyddol yn cael ei ddefnyddio i gyrraedd y targed.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bwriadu plannu 18,000 hectar o goetir yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon erbyn 2030.
Bydd yn golygu y bydd 17% o'r tir y mae'r elusen yn gofalu amdano wedi'i orchuddio â choed - cynnydd sylweddol o'r 10% presennol.
Mae'r elusen yn gobeithio bod yn garbon sero net erbyn 2030.
Mae hi'n debygol y bydd tir ffermio ar yr ucheldir yn gorfod cael ei ddefnyddio i gyrraedd y targed.
"Dwi'n teimlo bod plannu'r holl hectarau yma o goed yn mynd i gael effaith andwyol ar amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd a hefyd ar gymuned," meddai Mr Roberts.
"'Sdim eisiau sbïo yn bell o fan yma. Ym Mhenmachno, rhyw ddwy filltir o fan'ma, a'r effaith ma' plannu coed wedi cael yn fan'no i ddiboblogi cefn gwlad, ac ar iaith a diwylliant.
"Mae'n hanfodol ein bod ni'n edrych ar gyd-destun eang yr holl beth."
'Coed lle bu cymdogaeth, fforest lle bu ffermydd'
Yn ôl Mr Roberts, roedd yna deimlad bod y cyhoeddiad yn "hoelen arall" yn arch y diwydiant.
"Mae amaethyddiaeth yn ystod yr hanner blwyddyn ddiwethaf wedi cael ei hitio o bob un ochr. Mae hwn yn un ergyd arall...
"Tasech chi'n edrych ar y sefyllfa yn iawn, dim ond 10% mae'r diwydiant amaeth yn rhoi allan o garbon."
Wrth ddyfynnu cerdd Gwenallt, Rhydcymerau, dywedodd Mr Roberts bod angen meddwl "a'i dyma'r Gymru 'da ni eisiau i'r dyfodol".
"Coed lle bu cymdogaeth, fforest lle bu ffermydd. Cyfarth cadnoid lle bu cri plant ac ŵyn..."
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dweud y bydd y coetiroedd ychwanegol yn cloi 300,000 tunnell o garbon, sydd yn cyfateb i allbwn ynni 37,000 o gartrefi'r flwyddyn.
Yn ôl Trystan Edwards o'r ymddiriedolaeth, y nod fydd gweithio mewn partneriaeth gyda thenantiaid.
"Mi fyddwn ni hefyd yn gwneud gwaith plannu o gwmpas ardaloedd dinesig, lle 'da ni'n ceisio creu parcio ar gyfer beicio a cherdded.
"Cyn belled ag ardaloedd fel Eryri, mae'n parhau â gwaith 'da ni'n gwneud yn barod, sef i drio gwella'r cynefinoedd, ac mae Hafod y Llan yn enghraifft glasurol, ble 'da ni yn ceisio cynyddu'r goedlan o tua 100 hectar, trwy fynd â'r coed yn uwch i fyny'r mynydd.
"Dydy o ddim yn tynnu tir allan o amaethyddiaeth yn gyfan gwbl, mae o'n cydweithio efo ffermwyr i geisio cael y lefelau stoc yn iawn fel bod coed yn gallu tyfu.
"Gweithio law yn llaw â thenantiaid ydy'r bwriad."
'Pwyso a mesur yn lleol'
Dywedodd Mr Edwards ei fod yn rhagweld y bydd rhwng 1,000 a 2,000 hectar o goetir newydd yn cael ei blannu ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.
Fe fydd y cynllun plannu coed yn costio rhwng £90m a £100m.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol nad oedd ganddyn nhw ffigyrau manwl ynglŷn â nifer y coed fydd yn cael eu plannu, ond y byddai'r coetir newydd yn "amrywio yn helaeth yn dibynnu ar y safle ac amgylchiadau lleol".
"Mae tenantiaethau yn dod yn ôl i'n gofalaeth bob blwyddyn ac am wahanol resymau.
"Fe fyddwn yn edrych am gyfleoedd i ehangu coetiroedd yn yr amgylchiadau hyn, ond ddim ond ar ôl pwyso a mesur amgylchiadau lleol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2016