Aelodau Cynulliad i bleidleisio yn erbyn cytundeb Brexit

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, Matthew Horwood

Mae disgwyl y bydd Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio yn erbyn bil Brexit Boris Johnson yn ddiweddarach ddydd Mawrth.

Bydd y bleidlais ddim yn rhwystro'r bil rhag dod yn gyfraith gwlad, ond mae'n golygu y bydd pob un o'r gwledydd datganoledig wedi gwrthod cytundeb Brexit Mr Johnson.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn anhapus y bydd y bil - Cytundeb Ymadael yr UE - yn caniatáu i weinidogion y DU newid pwerau'r Cynulliad heb ganiatâd ACau.

Ond dywedodd Ysgrifennydd Brexit y DU, Stephen Barclay fod y bil yn parchu canlyniad refferendwm 2016.

Mae disgwyl y bydd ACau Llafur a Phlaid Cymru yn gwrthwynebu'r bil yn y Cynulliad ddydd Mawrth.

Yn y modd mae datganoli yn cael ei weithredu yn y DU, mae angen i seneddau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon roi cydsyniad i unrhyw ddeddfau o San Steffan sy'n effeithio arnyn nhw.

Ond bydd pleidleisiau o'r fath - yn erbyn Bil Brexit - ddim yn gallu rhwystro'r broses ddeddfwriaethol yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae disgwyl y bydd y DU yn gadael yr UE ar 31 Ionawr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Steve Barclay wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl

Dywed Llywodraeth Llafur Cymru ei fod yn poeni na fydd cytundeb Boris Johnson yn galluogi perthynas digon agos gyda'r UE, ac y byddai hynny yn newidiol i economi Cymru.

Yn ôl prif weinidog Cymru Mark Drakeford, er bod canlyniad yr etholiad cyffredinol yn golygu fod Brexit yn ffaith, doedd o ddim, meddai, yn rhoi "siec ddi-ben-draw i lywodraeth y DU wneud pethau mewn modd fyddai'n niweidiol i economi Cymru".

Mewn llythyr at Lywodraeth Cymru mae Mr Barclay wedi apelio ar weinidogion Bae Caerdydd i ailfeddwl.

"Rwy'n gobeithio y byddwch yn ailfeddwl eich argymhelliad, ac yn cefnogi'r bil hwn," meddai.

Dywedodd Delyth Jewell, AC Plaid Cymru nad oedd ei phlaid yn gallu cefnogi'r bil oherwydd ei fod "yn bygwth pwerau Cymru ac yn cael gwared ar oruchwyliaeth seneddol o'r trafodaethau..."

Roedd o'r farn y byddai'r ddeddf yn gwneud cytundeb gwael neu ddim cytundeb o gwbl yn fwy tebygol.

Fe fydd aelodau Plaid Brexit a'r Ceidwadwyr yn cefnogi'r bil.

Dywedodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, y dylai Llywodraeth Lafur Cymru "barchu dymuniad pobl Cymru a chefnogi'r Bil Ymadael er mwyn rhyddhau potensial Cymru".