Cyhuddo dau ddyn ifanc o achosi marwolaeth merch 17 oed

  • Cyhoeddwyd
Olivia AlkirFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Olivia Alkir newydd ei phenodi yn ddirprwy brif ferch yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun pan fu farw

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhuddo dau ddyn ifanc o achosi marwolaeth merch 17 oed wedi gwrthdrawiad y llynedd.

Bu farw Olivia Alkir yn dilyn y digwyddiad ar y B5105 rhwng Rhuthun a Cherrigydrudion ar 27 Mehefin 2019.

Cafodd pump arall eu hanafu yn y gwrthdrawiad yn ardal Efenechtyd rhwng Ford Fiesta coch a Mercedes du.

Cyhoeddodd yr heddlu ddydd Mawrth fod bachgen 17 oed a dyn 18 oed o ardal Rhuthun wedi'u cyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Mae'r ddau hefyd yn wynebu pedwar cyhuddiad o achosi niwed difrifol trwy yrru'n beryglus.

Bydd y ddau yn ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ar 5 Chwefror.

Yn dilyn ei marwolaeth, cafodd Olivia ei disgrifio gan ei theulu fel merch "llawn hwyl, doeth ac uchelgeisiol".