Aldi i greu 200 o swyddi yng Nghymru yn ystod 2020

  • Cyhoeddwyd
AldiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae archfarchnad Aldi wedi cyhoeddi y bydd yn creu 200 o swyddi yn ei siopau yng Nghymru eleni.

Mae'r cwmni, sydd bellach â chyfran o 7.8% o'r farchnad, yn bwriadu creu 3,800 o swyddi ar draws y DU yn ystod 2020.

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi cynnydd yn eu cyflogau er mwyn parhau i gynnig y tâl mwyaf i weithwyr archfarchnadoedd.

Y nod, meddai'r cwmni, yw "cyflogi'r staff gorau ar gyfer ehangu'r busnes".

Bydd gweithwyr siopau Aldi yng Nghymru'n derbyn o leiaf £9.40 yr awr o 1 Chwefror - cynnydd o 30c yr awr - a bydd hynny'n codi i o leiaf £10.41 yr awr wedi tair blynedd o wasanaeth.

Mae'r gyfradd gychwynnol yn uwch na'r lleiafswm cyfog sy'n cael ei awgrymu gan y Sefydliad Cyflog Byw, sef £9.30 yr awr.

Aldi yw pumed archfarchnad fwyaf y DU gyda 874 o siopau ar draws y DU, ond mae'n gobeithio cynyddu'r nifer i 1,200 erbyn 2025.

Dywedodd y cwmni: "Ni sydd â'r gweithlu mwyaf effeithlon a chynhyrchiol, a dyna pam maen nhw'n ennill y cyfraddau tâl uchaf yn sector y siopau bwydydd."