Gwobrwyo Mentrau Iaith am godi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Yr enillwyrFfynhonnell y llun, Mentrau Iaith

Mae pump o bobl a chyrff wedi cael eu cydnabod am eu gwaith yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg mewn seremoni nos Fercher.

Cafodd gwirfoddolwr, dwy ŵyl, un feithrinfa ac un fenter dechnolegol eu gwobrwyo yn Aberystwyth gan gorff Mentrau Iaith.

Bwriad cynnal y gwobrau, yn ôl y fenter, oedd i "godi ymwybyddiaeth y Cymry o ystod eang gwaith y Mentrau Iaith lleol".

"Mae 22 Menter Iaith yn gweithio'n galed gyda phobl o bob oed ar hyd y flwyddyn er mwyn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn eu cymunedau," meddai Lowri Jones, cadeirydd Mentrau Iaith Cymru.

"Bwriad cynnal y gwobrau, oedd nid yn unig i gydnabod prosiectau gwych sy'n rhan o'r rhwydwaith, ond i godi ymwybyddiaeth y Cymry o ystod eang gwaith y Mentrau Iaith lleol."

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan: "Heb gymorth gwirfoddolwyr, ni fydd modd i'r Mentrau Iaith gynnig yr amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau trwy Gymru i gyd.

"Mae'r digwyddiadau ac ymyraethau hyn yn holl bwysig wrth sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg."

Gwirfoddolwyr:

Lloyd Evans - gwirfoddolwr gyda Menter Bro Ogwr

Dechreuodd Lloyd ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn Ysgol Gyfun Maesteg. Wedi cyfnod o wirfoddoli'n achlysurol gyda'r fenter, ymunodd gyda'r tîm fel gweithiwr ieuenctid, ac mae bellach yn gadeirydd y fenter.

"Mae gwirfoddoli yn y Gymraeg yn grêt achos mae'n rhoi cyfle i mi ddefnyddio'r Gymraeg tu fas i'r gwaith ac yn anffurfiol, felly dwi'n gobeithio ei fod e'n annog pobl eraill i wneud yr un peth â fi, a pharhau i ddefnyddio'r Gymraeg ar ôl graddio a gadael yr ysgol."

Ffynhonnell y llun, Mentrau Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Rhian Milcoy o WCVA yn cyflwyno'r wobr i Lloyd Evans

Technoleg:

WiciMôn - Menter Iaith Môn

Cychwynnodd y cynllun yn 2017 i gyd-fynd â'r Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn, a phwrpas yr hafan yw cyfoethogi'r Gymraeg ar Wicipedia er mwyn codi statws yr iaith.

Hyd yma, mae 2,752 erthygl wedi eu hysgrifennu gan wirfoddolwyr WiciMôn; plant ysgol gynradd, uwchradd a phobl hŷn.

"Pwrpas WiciMôn ydy cyfoethogi a phoblogeiddio'r fersiwn Cymraeg o Wikipedia ar y we," meddai Aaron Morris o'r Fenter, "a hynny drwy brosiect hanesyddol, gwyddonol, ac ieithyddol sy'n canolbwyntio ar Ynys Môn.

"Felly 'dan ni'n hyrwyddo'r iaith Gymraeg o fewn ysgolion cynradd ac uwchradd, yn cynnig sesiynau blasu ac yn eu dangos sut mae cyfrannu at y wefan."

Digwyddiad:

Parti Ponty - Menter Iaith Rhondda Cynon Taf

Gŵyl Gymraeg i bawb yw Parti Ponty sy'n rhoi llwyfan i gymysgedd o berfformwyr o'r ardal, a thu hwnt, sydd wedi ehangu i ddigwyddiadau dros bum lleoliad yn y sir yn 2019.

"Pan ddaeth yr ŵyl nôl yn 2015 fe roion ni her i'n hunain i ddenu rhyw 1,000 o bobl yno," meddai Einir Siôn, Prif Weithredwr y Fenter, "ac fe gelon ni 5,000."

"Roedd hynny'n destun awydd y sir i gynnal digwyddiad fel yma, ac felly bob blwyddyn rydyn ni wedi gosod targed realistig gyda'r niferoedd er mwyn tyfu, a bob blwyddyn 'da i wedi chwalu'r targed yna."

Cydweithio â Phartner:

Gŵyl Canol Dre - Menter Gorllewin Sir Gâr

Mae mudiadau Cymraeg, ysgolion cynradd tref Caerfyrddin ac eraill yn rhan o'r trefnu dros flwyddyn gyfan, ac mae gan bob partner rôl benodol.

"Mae'r fenter yn ffodus bod dros 30 o fudiadau wedi cyd-weithio i gynllunio a chyllido Gŵyl Canol Dref dros y ddwy flynedd ddiwethaf," meddai Gwawr Williams, sy'n Swyddog Ardaloedd Blaenoriaeth gyda'r fenter.

"Enghraifft o hyn ydy'r Ffermwyr Ifanc a mudiad yr Urdd, lle o'dd 'da nhw ardal yn yr ŵyl, lle o'n nhw'n cynnal gweithgareddau'n ystod y dydd.

"Heb y cydweithrediad yma bydde dim modd i ni ddenu dros 4,000 i fwrlwm y Gymraeg yng Nghaerfyrddin."

Ffynhonnell y llun, Mentrau Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Eirian Jones, Sioned Evans, Annette Evans a Nia Owen o Fenter Iaith Conwy gyda Marc Davies o Co-op Cymru

Datblygu Cymunedol:

Meithrinfa Derwen Deg - Menter Iaith Conwy

Ar ôl darganfod diffyg gofal plant cyfrwng Cymraeg yn ardal arfordirol Sir Conwy aeth Menter Iaith Conwy ati i gyd-weithio'n agos ag aelodau'r gymuned i greu menter gymdeithasol newydd i ateb y galw.

Erbyn hyn mae Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg yn cynnig gofal i 47 o blant pob dydd ac yn cyflogi 15 aelod o staff sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Meddai Sioned Evans, rheolwr Meithrinfa Derwen Deg: "Mae'r staff i gyd yn siarad Cymraeg yma, mae ganddon ni rai sydd wedi dod yma o'r coleg, ond mae eraill wedi dysgu Cymraeg a nawr lot fwy hyderus ac yn siarad yn gwbl rugl."

Gallwch weld manylion y rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau yma, dolen allanol.