Oeri cleifion ar ôl iddyn nhw gael ataliad y galon
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwil gan saith o ysbytai'r DU yn ceisio canfod a yw oeri cleifion sydd wedi cael ataliad ar y galon yn eu helpu i wella.
Ymchwilwyr yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd sy'n arwain y profion, ac mae 1,900 o gleifion drwy'r byd yn rhan o'r ymchwil dan yr enw TTM2.
Yn allweddol i'r ymchwil yng Nghymru mae profiad un dyn fu bron marw ar gae pêl-droed.
Flwyddyn yn ôl, cafodd Andrew Barnett ataliad ar ei galon tra'n chwarae pêl-droed gyda'i fab ifanc.
Yn ffodus i Mr Barnett, fe ddigwyddodd o un o gaeau canolfan hamdden yn y brifddinas oedd â diffibriliwr wrth law, a rheolwr y ganolfan oedd yn gwybod technegau adfywio CPR.
Fe ddaeth Mr Barnett, 46 oed, drwyddi a dod yn rhan o'r prawf yn yr ysbyty i weld a yw oeri'r corff wrth gael triniaeth ddwys yn gymorth i wella.
Mae hanner y cleifion yn y prawf yn cael eu hoeri i dymheredd o 33C - tymheredd arferol y corff yw 37.5C - a'u cadw fel yna am 24 awr wrth gael y driniaeth frys arferol i achub eu bywydau.
Mae'r hanner arall yn cael eu cadw ar y tymheredd arferol, ond heb or-boethi chwaith, fel bod modd cymharu'r canlyniadau yn y pen draw.
Dr Matt Morgan yw un o'r ymgynghorwyr ac ymchwilwyr sy'n arwain y profion.
Dywedodd: "Nod y prawf yw edrych ar bwysigrwydd gwarchod yr ymennydd ar ôl i berson gael ataliad ar y galon, ac mae theorïau wedi bodoli ers y 1960au sy'n dweud fod oeri'r corff yn gwarchod yr ymennydd.
"Mae'r dechneg wedi cael ei defnyddio'n helaeth ar draws y byd, ond dydyn ni ddim yn gwybod i sicrwydd os ydy hyn yn fuddiol."
Un o'r heriau sy'n wynebu ymchwilwyr yw cael cydsyniad i gynnal y profion.
Yn aml mae'r cleifion eu hunain yn anymwybodol, ac mae eu teuluoedd dan straen. Bydd staff yn gofyn caniatâd unwaith y bydd elfen gyntaf y driniaeth frys ar ben.
Mae Dr Morgan yn gobeithio y bydd teuluoedd yn deall pwysigrwydd darganfod os yw'r dechneg yn effeithiol.
Roedd Andrew Barnett wedi chwarae mewn gêm i dadau a meibion wythnos cyn y Nadolig gyda'i fab saith oed, Seb.
Nid yw'n cofio llawer am y digwyddiad.
"Roeddwn i wedi bod yn gweithio o adre ac wedi mynd i nofio amser cinio cyn nôl fy mab am y gêm gyda'r nos," meddai.
"Dwi ddim yn cofio llawer heblaw'r hyn mae pobl wedi dweud wrtha i. Dwi ddim yn cofio'r gêm o gwbl, nac yn cofio cwympo i'r llawr, ond roedd pawb o 'nghwmpas i yn gwybod bod rhywbeth mawr o'i le.
"Y peth cyntaf dwi'n cofio yw deffro'r bore canlynol yn yr ysbyty, a pobl yn dweud wrthyf mod i wedi cael ataliad ar y galon. Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth... roedd e'r math o beth sy'n digwydd o bobl eraill."
Pan gyrhaeddodd Mr Barnett Ysbyty Athrofaol Cymru fe gafodd ei lonyddu a'i gynnwys yn y prawf, cyn cael ei dynnu oddi ar y ddwy driniaeth y diwrnod canlynol.
Mae oddeutu 6,000 o bobl yng Nghymru angen eu hadfywio y tu allan i ysbytai bob blwyddyn, a dim ond tua 10% o'r rhain sy'n gwella'n llwyr a gadael yr ysbyty.
Mae Mr Barnett felly yn un o'r rhai lwcus.
Mae 392 o gleifion o'r DU ymhlith y 1,900 sy'n rhan o arbrawf a ddechreuodd yn Sweden.
Y saith ysbyty sy'n rhan o'r ymchwil yw:
Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd;
Ysbyty Basildon a Thurrock;
Ysbyty Brenhinol Berkshire;
Ysbyty Prifysgol Birmingham;
Ysbyty Brenhinol Bryste;
Ysbyty Brenhinol Victoria, Belfast;
Ysbyty Brenhinol Manceinion.
Jade Cole yw'r nyrs sy'n arwain y profion yng Nghaerdydd, a dywedodd fod rhaid i'r claf fod wedi cael ei adfywio am o leiaf 20 munud cyn eu bod yn briodol eu cynnwys yn yr arbrawf. Ond ychwanegodd fod diogelwch y claf a dymuniadau'r teulu yn flaenoriaeth.
Dywedodd: "Y teulu sydd â'r gair olaf oherwydd fydden ni ddim am roi straen arnyn nhw mewn sefyllfa fel yna.
"Er hynny dydw i ddim wedi dod ar draws claf sydd ddim yn hapus i fod yn rhan o astudiaeth ymchwil fel hyn... maen nhw bob tro'n bositif, ac yn aml yn synnu eich bod am wneud ymchwil mewn triniaeth frys."
Mae 54 o gleifion o Gymru yn rhan o'r profion - mwy nag o'r Almaen na'r Eidal - ac mae disgwyl y canlyniadau cyntaf yn yr haf.
'Bregus a gwerthfawr'
Dywedodd Andrew Barnett ei fod yn hollol fodlon o gymryd rhan yn y treial er na allai roi caniatad pan gyrhaeddodd yr ysbyty.
"Fe gyrhaeddes i yn yr uned frys yn anymwybodol. Dyw e ddim yn fy mhoeni i nad oeddwn i wedi rhoi cydsyniad oherwydd rydyn ni i gyd yn elwa o'r ymchwil yma."
Ar ol treulio pythefnos yn yr ysbyty a phedwar mis bant o'i waith mae Andrew bellach yn holliach.
"Rwy wedi ail ddechrau chware pel droed gyda fy mab - ry' ni'n hyfforddi bob dydd Llun.
"Mae fy mhrofiad yn profi pa mor fregus a gwerthfawr yw bywyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2018