Cerddwr wedi ei anafu'n ddifrifol yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd

Roedd tri cherbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad - gyda dau o'r tri wedi eu parcio ar ochr y ffordd
Mae cerddwr wedi ei anafu yn ddifrifol ar ôl gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar yr A487 yn Ngheredigon nos Fawrth, 21 Ionawr.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ym mhentref Ffwrnais, ger Eglwys-fach, rhwng Aberystwyth a Machynlleth.
Cafodd swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys Police eu galw i'r digwyddiad am 18:50 nos Fawrth. Roedd tri cherbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad - gyda dau o'r tri wedi eu parcio ar ochr y ffordd.
Mae un dyn yn y ddalfa ar ôl y digwyddiad ac yn cael ei holi gan yr heddlu. Fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed drwy yrru'n beryglus.
Dywedodd llefarydd nad yw bywyd y cerddwr mewn perygl ond fe allai ei anafiadau newid ei fywyd.
Cafodd y ffordd ei hailagor am 01:30 fore Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i bentref Ffwrnais am 18:50 nos Fawrth