Gyrrwr beic modur wedi marw yn Nhyn-y-Groes, Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
mapFfynhonnell y llun, openstreetmap.cymru

Mae gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Conwy nos Iau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 21:30 i'r B5106 ger Tyn-y-Groes i adroddiad fod Vauxhall Astra a beic modur wedi taro'i gilydd.

Bu farw'r dyn oedd yn gyrru'r beic modur yn y fan a'r lle.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth i'r digwyddiad.

Fe gafodd y ffordd ei hailagor toc wedi 03:00 fore Gwener.