Annog pobl hŷn i leihau'r risg o ddisgyn adref

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Olwen Roberts yn dweud bod ymarfer corff wedi gwneud "lot o wahaniaeth" i'w chlun

Mae awdurdod iechyd yn annog pobl hŷn i gymryd camau i leihau'r risg o ddisgyn o gwmpas y cartref.

Ymhlith yr argymhellion gan Ysbyty Maelor yn Wrecsam mae sicrhau bod golau da yn y tŷ, a gwisgo esgidiau sy'n ffitio.

Maen nhw hefyd yn annog pobl i wneud ymarfer corff ysgafn a chael diet cytbwys, iach.

Yn ôl llawfeddyg, mae effaith torri clun ar ystod bywyd claf yn debyg i effaith canser.

Yr ateb i gleifion fel Olwen Roberts, 75, ydy gwneud mwy o ymarfer corff.

Mae hi'n aelod o grŵp Heneiddio'n Dda sy'n cwrdd yn wythnosol yn Y Bala.

"Ro'n i'n codi i fynd i'r toiled yn y nos, a ddaru fi syrthio," meddai Ms Roberts.

"Ro'n i'n gwybod bod rhywbeth wedi digwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae grŵp ymarfer corff Heneiddio'n Dda yn y Bala yn croesawu pobl o bob gallu

Aeth ar ambiwlans i Ysbyty Maelor Wrecsam, a bu'n rhaid iddi gael llawdriniaeth. Chwe wythnos wedyn, dychwelodd i'r grŵp ymarfer corff.

"Dwi'n teimlo bod fy hip wedi dod yn well am 'mod i'n ei wneud o," meddai.

"Mae o'n gwneud lot o wahaniaeth."

Cyngor

Yn eu hymdrech i leihau'r risg o syrthio, mae Ysbyty Maelor nawr yn annog pobl i ddilyn cyngor syml, gan gynnwys:

  • Symud unrhyw fatiau sydd ar y llawr;

  • Sicrhau bod golau da o gwmpas y tŷ;

  • Peidio gadael unrhyw beth ar y grisiau;

  • Gwisgo esgidiau sy'n ffitio'n dda;

  • Cadw ffôn symudol gyda chi.

Mae camau'r cyngor wedi arwain at ostyngiad o 46% yn y nifer sy'n syrthio mewn cartrefi gofal yn nalgylch yr ysbyty.

Ond mae'r llawfeddyg Ibrahim Malek yn rhybuddio bod effaith cwymp yn gallu bod yn bellgyrhaeddol.

"Mae ystod bywyd ar ôl torri clun yn debyg i rai o'r mathau gwaethaf a ffyrnicaf o ganser," meddai.

"Rydyn ni'n gwybod na fydd nifer o'r cleifion yma'n gwneud na'n symud cymaint ag yr oedden nhw cyn eu llawdriniaeth. Ac mae hynny'n risg i'w hannibyniaeth."

Arweinydd 91 oed

Un sy'n annibynnol, tra'n byw mewn llety lle mae gofalwyr ar gael i'w chefnogi, ydi Olwen Jones, sy'n 91.

Hi sy'n arwain ymarferion grŵp ymarfer corff Heneiddio'n Dda yn y Bala. Ac mae'n pwysleisio bod yr ymarferion hynny i bawb, waeth beth yw eu gallu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna elfen gymdeithasol i'r sesiynau ymarfer corff hefyd medd Olwen Jones

"Dwi'n dweud wrthyn nhw - dim ots os 'dach chi'n eistedd lawr trwy'r amser [yn ystod yr ymarferion]," meddai.

"A jyst gwneud be' maen nhw'n medru.

"Y peth mwya' ydy eu bod nhw'n dod allan o'u tai, yn mwynhau, ac yn cymysgu efo'i gilydd."