Defnyddwyr heroin 'angen presgripsiynau cynt'

  • Cyhoeddwyd
A syringe and pots of pillsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gall gymryd wythnosau neu fisoedd i gleifion dderbyn cyffur meddygol yn hytrach na heroin

Mae yna alw ar i ddefnyddwyr heroin gael cyffuriau presgripsiwn yn gyflymach er mwyn eu hatal rhag ceisio trin eu hunain.

Siaradodd ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru â 60 defnyddiwr heroin ar draws Cymru oedd yn hunan-drin, yn cynnwys rhai oedd yn defnyddio cyffuriau eraill yn lle heroin, gyda llawer yn dweud bod cael cyffuriau gan eu meddyg yn anodd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yna "welliant cyson mewn amseroedd aros" a bod bwriad i wneud mwy.

Siaradodd yr ymchwilwyr gyda phobl oedd yn arfer ac sydd nawr yn defnyddio heroin, yn cynnwys rhai oedd yn y carchar.

Fe gawson nhw eu holi am sut a pham y defnyddion nhw gyffuriau sydd ar gael ar bresgripsiwn yn unig.

Dywedodd yr Athro Kate Holloway, arweinydd yr astudiaeth, bod yr ymchwil yn awgrymu dylai mynediad i gyffuriau meddygol, megis methadon a buprenorphine, gael ei wneud yn "gyflymach ac yn hawsach" er mwyn osgoi hunan-driniaeth a risg cynyddol o gymryd gorddos.

"Mae yna restrau aros ac rydyn ni'n credu dylen nhw gael eu gwella, fel bod neb yn gorfod aros," meddai.

"Maen nhw'n dod i gael eu trin, mae ganddyn nhw'r dewrder i ddod, gad i ni drin nhw cyn gynted â phosib."

Cyrhaeddodd marwolaethau yn ymwneud â chyffuriau eu lefel uchaf erioed yng Nghymru a Lloegr yn 2018, yn ôl ffigyrau swyddogol, gyda 208 o farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau yng Nghymru yn ystod yr amser hwnnw.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 91% o bobl sy'n camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru yn cael eu trin o fewn 20 dydd gwaith o gael eu hanfon am driniaeth.

Er hyn, mae'n gallu cymryd wythnosau neu fisoedd i gleifion dderbyn cyffur meddygol yn hytrach na heroin.

"Chi eisiau cymorth cyn gynted â phosib"

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tony Davies oedd e'n edrych yn hollol wahanol, hyd yn oed i'w deulu, pan gyrhaeddodd y carchar gyda dibyniaeth heroin yn 2016

Roedd Tony Davies, 42, sy'n dad i ddau o Gasnewydd, yn ddibynnol ar heroin ar adegau gwahanol am dros 19 mlynedd.

Dywedodd fod oedi rhwng gweld meddyg a chael triniaeth pan oedd e'n ceisio rhoi'r gorau i'r cyffur.

"Pan 'dych chi'n barod i roi'r gorau iddi a chymryd cyffuriau, dim heroin yn unig, 'dych chi angen cymorth yn syth," meddai.

"I fi, roedd yr amser wrth aros am driniaeth wastad yn 'neud i fi feddwl, 'reit, oce te, os dwi'n methu cael y cyffuriau meddygol yn gyflym, fe wnâi ei brynu fy hun'.

"Felly bydden ni'n prynu methadon ar y stryd, neu faliwm. Bydden ni'n rhedeg allan neu bydden ni methu ei gael e'n gloi, felly byddwn ni'n mynd yn syth nôl at gymryd heroin."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tony Davies bod detox "yn beth ofnadwy i fynd trwy"

Ychwanegodd: "Dwi 'di dweud celwydd wrth lawer o ddoctoriaid dros y blynyddoedd. Dwi 'di dweud bo' fi 'di colli fy mhresgripsiwn, bod rhywun 'di dwyn fy mhresgripsiwn.

"Mae yna lot o esgusodion. Maen nhw'n sylweddoli yn y diwedd.

"Dwi hyd yn oed 'di newid y rhifau ar bresgripsiynau yn y gorffennol fel bod fi'n cael dwbl y tabledi. Bysech chi'n trio unrhyw beth."

Llwyddodd Tony Davies i stopio cymryd cyffuriau ar ôl iddo fynd i'r carchar am geisio lladrata yn 2016.

Mae nawr yn gweithio i wasanaeth mentora Cyfle Cymru sy'n helpu pobl sy'n camddefnyddio cyffuriau a rhai sydd a phroblemau iechyd meddwl.

Galwodd Josie Smith, pennaeth camddefnydd cyffuriau Iechyd Cyhoeddus Cymru, am driniaeth gyflymach i bobl sy'n trio rhoi'r gorau i'r ddibyniaeth ar heroin.

"Mae yna dystiolaeth dda iawn bod triniaeth gyflym i therapi opioid yn lle heroin yn llesol i'r unigolyn ac yn hybu ymrwymiad yn y driniaeth," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddyn nhw gronfa o £53m i daclo camddefnyddio cyffuriau, er gwaethaf "toriadau parhaus i'n cyllid cyffredinol gan Lywodraeth y DU".