UFC: Brett Johns yn ôl ar ei orau
- Cyhoeddwyd
Mae'r ymladdwr UFC Brett Johns o Abertawe wedi cael hwb mawr i'w yrfa broffesiynol drwy ennill ei ornest pwysau bantam Tony Gravely yn Raleigh, Gogledd Carolina.
Roedd hi'n ornest agos gyda'r ddau ymladdwr yn cipio pwyntiau yn y ddwy rownd agoriadol ond roedd Johns fymryn ar y blaen.
Yn y drydedd rownd fe lwyddodd y Cymro i godi ei gêm.
Wrth i Gravely wynebu sawl dwrn bu'n rhai iddo godi ei freichiau i amddiffyn ei wyneb.
Manteisiodd Johns ar hynny i afael ynddo fo dan ei ên a sicrhau'r fuddugoliaeth.
Hon oedd gornest gyntaf y cyn-bencampwr byd ers dros flwyddyn ar ôl anaf difrifol i'w benglin wrth ymladd Pedro Munhoz.
Roedd y Cymro 27 oed wedi dod yn agos i roi'r gorau i'r gamp tan i'w frawd ei helpu i adfer ei hyder.
Yn y gynhadledd newyddion wedi'r ornest dywedodd Johns: "Nôl ym mis Mawrth fe ddes i'n agos iawn at roi'r gorau iddi hi ond fe wnaeth fy mrawd fy ngwahodd i Las Vegas am dair wythnos. Ddaethom ni nôl adre ac fe ro'dd yr awch yn dal yna."
Johns oedd y Cymro cyntaf i ymladd yn yr UFC pan enillodd e yn erbyn Kwan Ko Kwak o Dde Corea yn Belfast ym mis Tachwedd 2016.
Mae ei gytundeb UFC yn dirwyn i ben. Fe fydd y fuddugoliaeth yn erbyn Graveley yn hwb mawr i'w ymdrechion i barhau yn y gamp ar lefel broffesiynol.