Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-1 West Bromwich Albion
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd wedi sicrhau tri phwynt yn y Bencampwriaeth ar ôl curo'r tîm wnaeth ddechrau'r noson ar frig y tabl.
Wedi hanner cyntaf di-sgôr, daeth Sean Morrison yn agos at roi tîm Neil Harris ar y blaen yn fuan wedi'r egwyl.
Ond doedd dim modd atal ergyd Callum Paterson o agos, funud yn ddiweddarach, i ganol y gôl.
Fe barodd mantais Caerdydd am ryw chwarter awr cyn i Jazz Richards droseddu yn y cwrt cosbi. Sgoriodd yr eilydd Charlie Austin o'r smotyn i ddod â West Brom yn gyfartal.
Daeth ail gôl Caerdydd o gic rydd wedi 76 o funudau gan Lee Tomlin.
Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Adar Gleision yn codi un safle, a bellach yn 12fed yn y tabl - pum pwynt o safleoedd y gemau ail gyfle.
Mae West Brom yn syrthio i'r ail safle, ddau bwynt y tu ôl i Leeds.