Canran is o geisiadau gan bobl o'r UE i aros yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae canran dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n ceisio i aros yn y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit yn is yng Nghymru nag yng ngweddill y DU.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf tua 63% o ddinasyddion yr UE sydd wedi gwneud cais i aros yma, o'i gymharu â 84% yn Lloegr.
Yn ôl Gweinidog Brexit Cymru, Jeremy Miles, mae hi'n "ymddangos bod cyfran uchel o bobl yn cael statws preswylydd cyn-sefydlog, yn hytrach na statws preswylydd sefydlog".
Dywed y Swyddfa Gartref fod y broses yn un rhad ac am ddim ac yn hawdd i'w deall, a bod gan bobl tan ddiwedd Mehefin 2021 i wneud cais.
Symudodd Romain Sacré, 30, i Gymru o Ffrainc yn 2013 ac mae wedi astudio a gweithio yma ers hynny.
Fe briododd â Chymraes y llynedd ac mae eisiau magu teulu yma.
Mae'n dweud iddo gael statws cyn-sefydlog mewn ymateb i'w gais i aros, er ei fod wedi byw yng Nghymru yn hirach na'r pum mlynedd angenrheidiol i fod yn gymwys am statws preswylydd sefydlog.
"Mae'n wirioneddol ingol," meddai. "Mae yna fwlch posib yn fy hanes i ym Mhrydain pan rydw i wedi bod yn byw yma drwy'r cyfnod, yn astudio, gweithio, talu fy nhrethi."
Treuliodd Evija Upeniece, 52 oed ac o Latfia, wyth mis yn ceisio ac ail-ymgeisio am statws sefydlog cyn llwyddo yn gynharach ym mis Ionawr.
Mae'n byw yng Nghymru ers 2005 ac yn rhedeg caffi yn Aberdaugleddau gyda'i chymar, Mark.
Statws cyn-sefydlog gafodd hi yn y lle cyntaf, cyn i Mark ei helpu i apelio yn erbyn y dyfarniad - proses y mae e'n ei ddisgrifio'n un "dorcalonnus".
Dywedodd Ms Upeniece: "Rydych chi wastad yn poeni a fydd y ddogfen yma'n ddigonol… fydden nhw'n gofyn am fwy wedyn. Mae yna ansicrwydd parhaus a dyna sy'n achosi'r straen."
Mae'r elusen Settled, sy'n helpu dinasyddion yr UE yn y DU i geisio am statws sefydlog, wedi erfyn ar bobl sydd wedi cael statws cyn-sefydlog, ond yn teimlo eu bod yn gymwys i gael statws sefydlog, i apelio gan ddarparu mwy o ddogfennau.
Maen nhw'n dweud bod statws cyn-sefydlog â nifer o gyfyngiadau, gan gynnwys methu gadael y DU am fwy na chwe mis.
Gall dinasyddion o'r UE sydd â statws cyn-sefydlog aros yn y DU am bum mlynedd, ac yna gofyn am statws sefydlog os oes modd profi eu bod wedi byw yn y DU yn gyson.
Yn ôl cyfreithiwr mewnfudo, mae'n aml yn frwydr i gyflwyno tystiolaeth sy'n dderbyniol i'r Swyddfa Gartref wrth helpu pobl o'r UE i geisio am statws sefydlog.
Yn ôl Hillary Brown, mae cynrychiolwyr cyfreithiol yn ofni y bydd yna awyrgylch gelyniaethus tuag at ddinasyddion yr UE, fel yn achos mewnfudwyr Windrush.
Dywedodd bod llawer o'u cleientiaid wedi gwneud gwaith tymhorol ar ôl cyrraedd y DU, neu'n gweithio ar gyflogau rhy isel i dalu treth ac yswiriant cenedlaethol.
Mae eraill, ar ôl dod i'r DU i ymuno â phartneriaid, heb gael gwaith, addysg na budd-daliadau fel bod "dim dogfennau i ddangos yr hyn fuon nhw'n ei wneud ac felly maen nhw'n mynd i'w chael hi'n anodd iawn i brofi eu bod wedi bod yn y Deyrnas Unedig am ba bynnag gyfnod o amser".
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Rydym am i ddinasyddion yr UE aros ac rydym yn falch fod dros 40,000 o geisiadau o Gymru ar gyfer statws preswylydd sefydlog.
"Does yna neb wedi derbyn statws cyn-sefydlog heb yn gyntaf cael y cyfle i gynnig tystiolaethu fod ganddynt dystiolaeth sy'n gymwys ar gyfer statws preswylydd sefydlog.
"Mae'r broses yn rhad ac am ddim, yn hawdd i'w ddeall ac mae digon o gefnogaeth ar gael, gan gynnwys llinell gymorth sydd ar gael saith diwrnod yr wythnos."
Wales Live, BBC One Wales, nos Fercher 29 Ionawr am 22:35 ac ar BBC iPlayer wedi hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018