Bachgen yn dioddef ataliad y galon mewn sesiwn ymarfer
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd bachgen ifanc ei gludo i'r ysbyty ar ôl dioddef ataliad ar y galon yn ystod sesiwn hyfforddi ei glwb pêl-droed yn Abertawe nos Fawrth.
Mewn neges ar Twitter, dywedodd clwb Penlan fod y "llanc ifanc wedi derbyn triniaeth CPR gan rieni ddaeth â'i anadl yn ôl".
Brynhawn dydd Mercher fe gyhoeddodd y clwb mewn neges Facebook fod y bachgen bellach yn effro ac yn siarad.
Ychwanegodd y neges fod meddygon yn bwriadu cadw llygad arno dros y 48 awr nesaf "ond bod camau breision wedi bod yn ei wellhad llawn gobeithio".
Fe ddiolchodd y clwb i bawb am eu cefnogaeth a negeseuon.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Cawsom ein galw ar ddydd Mawrth 28 Ionawr am tua 18:43 yn dilyn adroddiadau fod person angen gofal meddygol frys ar Heol Powys yn Abertawe.
"Fe wnaethon ni ymateb gydag un cerbyd ymateb brys, un car meddygol arbenigol a dau ambiwlans. Cafodd un claf ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd."