Chwilio am artistiaid ifanc 'llun o Gaernarfon yn 1969'

  • Cyhoeddwyd
Llun plant Ysgol Maesincla 1969Ffynhonnell y llun, Ysgol Maesincla
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llun ei gadw mewn "lle tywyll, sych" sy'n esbonio pam bod y lliwiau mor llachar wedi hanner canrif

Mae llun gan ddisgyblion un o ysgolion cynradd Caernarfon, sy'n dangos y dref dros hanner canrif yn ôl, yn dychwelyd i'r ysgol ar ôl dod i'r fei yn ddiweddar.

Staff Llyfrgell Caernarfon ddaeth o hyd i'r darn â'r label 'Plant Ysgol Gynradd Maesincla 1969' yn dilyn gwaith i ailwampio storfa'r llyfrgell.

Hyd yma does neb yn gallu cadarnhau dan ba amgylchiadau y cafodd y llun ei greu neu ei arddangos, ond mae amheuaeth bod yna gysylltiad â'r Arwisgiad yn 1969.

Mae yna obaith y bydd rhywun yn gallu taflu goleuni ar hanes y darn ar ôl dod i glywed amdano.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Maesincla
Disgrifiad o’r llun,

Dehongliad y disgyblion ym mlwyddyn yr Arwisgiad o Gastell Caernarfon

Daeth y llun i'r fei haf diwethaf wrth i storfa'r llyfrgell gael ei chlirio cyn gosod llawr a silffoedd newydd.

"Roedd o'n amlwg wedi cael ei storio'n ofalus iawn," meddai'r llyfrgellydd ysgolion, Sioned Rowlands.

"Roedd un llun ar ben y llall mewn lle tywyll, sych.

"Yn amlwg, dydi o heb gael gola' ers blynyddoedd - dyna sut mae'r lliwiau cystal â maen nhw. Roedd hwn yn sefyll allan."

Ffynhonnell y llun, Ysgol Maesincla
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynnwys y flwyddyn 1969 yn y label wedi arwain at amheuaeth bod y llun yn ymwneud mewn rhyw ffordd â'r Arwisgiad

Mae'r llun yn cynnwys dehongliad y disgyblion o gastell enwog y dref, ardal yr harbwr ac adeiladau ar Stryd Bangor, ond does neb hyd yma wedi gallu cael mwy o wybodaeth bendant amdano.

"Roedden ni'n meddwl tybed oedd o rywbeth i'w wneud â'r Arwisgiad, oherwydd y flwyddyn 1969," meddai Ms Rowlands.

"Ond doed dim syniad pwy oedd yr artist wnaeth falle weithio hefo'r plant, at ba bwrpas gafodd o ei wneud, lle gafodd o ei arddangos."

Ffynhonnell y llun, Ysgol Maesincla
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r garej a gorsaf bysiau Crosville wedi hen ddiflannu ac mae'r eglwys bellach yn ganolfan chwarae i blant

Fe allai'r llun fod wedi cael ei arddangos yn un o'r ddwy lyfrgell oedd yng Nghaernarfon yn 1969.

Roedd un dan ofal y cyngor tref yn Adeilad yr Institiwt, a'r llall dan ofal yr hen gyngor sir mewn adeilad ar stryd a gafodd ei dymchwel wrth baratoi i godi ffordd osgoi canol Caernarfon.

Cafodd y ddau eu huno wedi ad-drefniad llywodraeth leol yn 1974 ac fe symudodd y llyfrgell i'w safle presennol yn yr 1980au.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y llun i'r fei wrth glirio storfa Llyfrgell Caernarfon ar gyfer gwaith ailwampio

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd yn cyflwyno'r llun i Ysgol Maesincla fel rhodd ddydd Iau "gyda'r gobaith y bydd yn procio cof ambell gyn-ddisgybl a bydd rhywun oedd yn rhan o'r prosiect yn gallu rhannu rhywfaint o wybodaeth amdano".

Fel rhan o'r achlysur, mae'r bît-bocsiwr Ed Holden yn cynnal gweithdy gyda disgyblion ar sail y darlun.

Dywedodd Sioned Rowlands bod pennaeth yr ysgol "wrth ei bodd" ar ôl dod i wybod am y llun a bod "lle pwrpasol i'w arddangos" yno.