Galw am roi mwy o flaenoriaeth i gwmnïau teledu Cymreig

  • Cyhoeddwyd
Craith
Disgrifiad o’r llun,

Craith/Hidden - cynhyrchiad o Gymru

Mae angen i gwmnïau teledu sydd wedi'u "gwreiddio" yng Nghymru dderbyn fwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Dyna farn Teledwyr Annibynnol Cymru yn dilyn lansiad y corff newydd Cymru Greadigol.

Mae'r corff wedi'i greu gan y llywodraeth i gefnogi'r diwydiannau creadigol yn sgil twf mawr yn y sector.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y bydd y corff newydd "yn adeiladu ar y llwyddiannau presennol".

Mae'r diwydiannau creadigol wedi tyfu dros y degawd diwethaf.

Erbyn hyn mae gan y sector drosiant o dros £2.2bn, gan gyflogi dros 56,000 o bobl, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae'r ffigwr hwnnw 40% yn uwch na 10 mlynedd yn ôl.

Digon o griwiau

Cafodd Cymru Greadigol ei ffurfio i barhau â'r twf yn niwydiant ffilm a theledu Cymru.

Mi fydd y corff hefyd yn cefnogi cyhoeddi a cherddoriaeth, ac mae datganiad eisoes wedi dod ynglŷn â chronfa newydd i gefnogi lleoliadau perfformio bach ledled Cymru.

Un o gyfrifoldebau'r corff newydd yw sicrhau bod digon o griwiau ar gael i gefnogi'r angen gan gwmnïau cynhyrchu.

Mae Cymru Greadigol yn addo i "symleiddio ein cymorth ariannol" a bydd pob buddsoddiad yn dibynnu ar "gontract economaidd".

Mae Gareth Williams, prif weithredwr cwmni cynhyrchu Rondo a chadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, yn croesawu ffurfio Cymru Greadigol, ond yn gofyn am fwy o flaenoriaeth i gwmnïau cynhenid Cymreig.

"Mae'n gyfle yn sicr i edrych ar ystod ehangach o gwmnïau," meddai.

"Mae'r ffocws wedi bod hyd yma ar fuddsoddi mewn prosiectau enfawr, allanol yn dod mewn i Gymru.

"Mae hynny'n beth da ac yn rhywbeth i'w groesawu, a 'dwi'n gobeithio yn fawr bydd hynny yn parhau.

"Ond 'dwi ddim yn credu bod e'n fater o wneud hynny ar draul y gefnogaeth, y datblygiad a'r twf sydd ar gael i gwmnïau a busnesau sydd wedi eu gwreiddio yma, sy'n cyflogi yma, sy'n gweithio ar hyd a lled Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £15m trwy'r cynllun oedd yn arfer cael ei redeg gan Pinewood ond dim ond un o'r 15 prosiect sydd wedi adennill yr arian yn llawn

Ychwanegodd: "Roedd y ffocws o fuddsoddi ar ffilm yn enwedig, sy'n gymaint o risg ac yn gofyn am gymaint o arian.

"Falle bod hynny'n le 'dan ni wedi colli'n ffordd yn ddiweddar oherwydd bod cymaint o'r prosiectau hynny ddim wedi dod â'r arian nôl, a bod colledion wedi cael eu gwneud ar gymaint o brosiectau oedd yn ymwneud â Pinewood, er enghraifft."

Bwriad Cymru Greadigol, yn ôl yr Arglwydd Elis-Thomas, yw "sicrhau fod Cymru'n cael ei gweld fel y lle delfrydol i leoli eich busnes creadigol".