Ffilm a theledu 'cynhenid' Cymru angen cefnogaeth
- Cyhoeddwyd
Mae 'na beryg y bydd twf diwydiant ffilm a theledu Cymru yn "colli momentwm" heb gymorth pellach gan Lywodraeth Cymru, yn ôl pwyllgor Cynulliad.
Mae ymchwiliad y pwyllgor diwylliant wedi galw am strategaeth newydd i sicrhau bod cynyrchiadau'n parhau i ffynnu.
Yn ôl y pwyllgor mae angen mwy o gefnogaeth i'r diwydiant ffilm a theledu "cynhenid", gan sicrhau bod criwiau o Gymru'n elwa o fuddsoddiad y llywodraeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi derbyn yr adroddiad ac y bydd yn ymateb maes o law.
Criwiau a thalent o Gymru
Ym mis Mawrth 2018 dechreuodd y pwyllgor ymchwilio i gefnogaeth y llywodraeth i ddiwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.
Bu darlledwyr, cynhyrchwyr, actorion ac academyddion, yn ogystal â gweinidogion y llywodraeth a'u swyddogion, yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor.
Mae adroddiad y pwyllgor yn argymell creu strategaeth i sicrhau bod criwiau o Gymru'n cael eu cyflogi gan gynhyrchwyr sy'n derbyn cefnogaeth gan y llywodraeth, ac i ystyried creu cwota o dalent leol i'w defnyddio ar y sgrin.
Ond roedd yr angen i gynyddu nifer y criwiau oedd â sgiliau perthnasol yn fater gafodd ei godi'n rheolaidd gan gynrychiolwyr y diwydiant yn eu tystiolaeth.
Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu bod corff llywodraethol newydd o'r enw Cymru Greadigol yn canolbwyntio ar wella sgiliau pan fydd yn cael ei lansio'n ddiweddarach.
Mae Bethan Sayed, cadeirydd y pwyllgor, yn dweud bod angen cynnal y gwaith o ddatblygu'r sector.
"'Da ni'n bryderus am golli'r momentwm oherwydd does dim dwywaith amdani fod Cymru wedi bod yn gwneud yn wych o ran creu cynyrchiadau byd eang ac yn llwyddiannus iawn yn y sector yma," meddai.
"Ond oherwydd efallai diffyg gweledigaeth a diffyg strategaeth sgiliau bydd y momentwm hynny'n cael ei golli a falle fod Cymru wedyn ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill sy'n gweld bod angen datblygu sgiliau a chadw talent.
"Falle bydd pobl yn mynd i wledydd eraill i weithio, falle y byddan nhw'n troi eu cefnau ar Gymru o ran creu cynyrchiadau, a dyna pam bod angen i ni gadw'r momentwm a sicrhau bod Cymru'n rhan o'r byd diwydiannau creadigol i'r dyfodol."
Clywodd y pwyllgor dystiolaeth bod buddsoddiad y llywodraeth mewn ffilm a theledu wedi cael effaith economaidd gadarnhaol ond mae'n galw am fwy o dryloywder yn dilyn perthynas ddadleuol y llywodraeth â Pinewood Studios.
Ffilmiau iaith Gymraeg
Mae rhan o'r adroddiad yn trafod yr iaith Gymraeg yn benodol, gan feirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â chael polisi o ran ariannu ffilmiau Cymraeg.
"Mae strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru - Cymraeg 2050 - yn dweud bod angen inni 'ehangu lle'r Gymraeg yn y byd, a gwneud mwy i ddathlu'r Gymraeg fel rhan allweddol o'n diwylliant cyfoes'," meddai'r adroddiad.
"Credwn fod cefnogaeth i ffilmiau Cymraeg yn rhan hanfodol o'r ymdrech hon.
"Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad polisi clir sy'n sail i ariannu ffilmiau Cymraeg. Clywsom am anawsterau o ran cael gafael ar gyllid ar gyfer ffilmiau Cymraeg.
"Gall hyn fod oherwydd y canfyddiad nad yw'r gynulleidfa arfaethedig yn ddigon mawr i gyfiawnhau'r buddsoddiad neu gallai fod oherwydd cryfder y cynyrchiadau teledu sy'n amsugno'r cyllid a'r dalent sydd ar gael.
"Rydym yn glir bod yna fantais ddiwylliannol i ariannu ffilmiau Cymraeg sy'n gorbwyso'r gofynion am elw masnachol ar fuddsoddiad."
Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar y llywodraeth i wneud mwy i sicrhau bod cwmnïau cynhyrchu "cynhenid" yn elwa o fuddsoddiad yn y diwydiannau creadigol.
Mae'n orfodol i gynyrchiadau sy'n cael cefnogaeth y llywodraeth wario cyfran benodol o'u cyllidebau yng Nghymru, ond yn ôl Ms Sayed, mae'n aneglur a ydy criwiau a busnesau Cymru'n elwa'n fawr.
Soniodd am enghreifftiau lle nad oedd cwmnïau mawr tramor yn defnyddio timau arlwyo lleol neu aelodau cast o Gymru.
'Ymladd i gael criwiau'
Mae cynhyrchydd y gyfres boblogaidd Un Bore Mercher/Keeping Faith, Gwenllian Gravelle yn dweud bod 'na brinder o fewn y diwydiant o weithwyr â sgiliau.
"Mae'n anodd iawn oherwydd ein bod ni i gyd yn ymladd i gael y criwiau," meddai.
"Mae nifer o gwmnïau cynhyrchu o Brydain a thramor yma, oherwydd y lleoliadau gwych sydd gyda ni yn ogystal ag ansawdd y criwiau a'r perfformwyr.
"Ond yr hyn sydd angen i ni wneud yw edrych i'r dyfodol a cheisio sicrhau ein bod yn meddwl am y genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr ffilm, bobl sain, gwisgoedd a cholur fel bod gyda ni gronfa fwy o bobl i ddarparu a chynhyrchu dramâu gwych."
Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Gareth Williams, cadeirydd TAC a phrif weithredwr Rondo Media: ʺRydyn ni'n cytuno'n llwyr â'r argymhelliad i Lywodraeth Cymru gefnogi cynaliadwyedd a thwf cynyrchiadau Cymraeg ac o natur benodol Gymreig.
"Ar yr un pryd, mae'n hanfodol i'r llywodraeth gydweithio gyda'r sector cynhyrchu a darlledwyr yng Nghymru i ddiwallu anghenion hyfforddiant a sgiliau er mwyn diogelu gweithlu'r dyfodol yn y diwydiant yng Nghymru.
"Mae TAC hefyd yn cytuno â'r argymhelliad i Lywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn cefnogi datblygiad a ffyniant busnesau o bob maint yn y sector cynhyrchu ledled y wlad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018