'Pwysau sylweddol' ar wasanaethau Ysbyty Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty GwyneddFfynhonnell y llun, Google

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyfaddef bod gwasanaethau yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi bod dan "bwysau sylweddol" wrth geisio delio ag achosion dros y gaeaf.

Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod wedi trin dros 10,000 o achosion difrifol mewn achosion brys yn y gogledd ym mis Rhagfyr, a hynny am y tro cyntaf erioed.

Daw hynny wedi i'r ffigyrau diweddaraf ddangos y perfformiad gwaethaf erioed i adrannau brys yng Nghymru, gydag ond 72.1% o gleifion yn aros yno am lai na phedair awr.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth un o benaethiaid Ysbyty Gwynedd ysgrifennu at staff yn dweud ei fod wedi profi'r "dechrau gwaethaf i ddiwrnod yn yr 13 mlynedd dwi wedi bod yma".

'Cymryd risg'

Mewn e-bost i staff ar 20 Ionawr, sydd wedi'i weld gan y BBC, dywedodd cyfarwyddwr clinigol y bwrdd iechyd, Dr Mark Payne fod gwasanaethau yn yr ysbyty ym Mangor wedi bod dan gryn bwysau.

Dim ond llynedd y cafodd yr adran frys yn Ysbyty Gwynedd ei uwchraddio.

Dywedodd Dr Payne bod angen i ymgynghorwyr fod ar bob ward "er mwyn sicrhau bod pawb sy'n gallu mynd adref heddiw, yn mynd heddiw ac yn mynd yn gynnar".

"Mae hynny'n golygu unrhyw un sydd ddim ag angen meddygol i fod yma dros y penwythnos.

"Bydd rhaid i ni gymryd risg, ond mae'r goblygiadau o beidio gwneud hyn yn siŵr o fod yn waeth."

Roedd ei neges hefyd yn manylu ar y sefyllfa yn yr ysbyty ar y pryd, gan gynnwys "dim lle" yn yr adran argyfwng na'r uned feddygol benodol, 51 o welyau mewn wardiau dros dro, a 70 o gleifion oedd yn ddigon iach i adael ond yn aros i gael eu hanfon adref.

Ychwanegodd: "Rydyn ni ond yn gallu dod allan o'r twll yma os ydyn ni'n osgoi derbyn unrhyw un sydd ddim angen gofal mewnol brys ac anfon unrhyw un sydd ddim bellach angen gofal brys adref."

Mewn datganiad i raglen Newsnight y BBC yn dilyn stori am bwysau'r gaeaf ar y GIG, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod wedi delio â mwy o achosion difrifol ym mis Rhagfyr nag erioed o'r blaen.

"Fe wnaeth hyn roi ein staff a gwasanaethau dan bwysau sylweddol a hoffwn ymddiheuro wrth unrhyw un fu'n aros yn hirach na ddylen nhw wrth i ni ddarparu gofal a chefnogaeth i'r rheiny â'r angen mwyaf," meddai llefarydd.