JFK, Khrushchev a Phenrhyndeudraeth

  • Cyhoeddwyd
Bertrand RussellFfynhonnell y llun, Keystone Features
Disgrifiad o’r llun,

Bertrand Russell yn ei gartref uwchben aber Dwyryd

Hanner can mlynedd yn ôl, ar 2 Chwefror 1970, bu farw'r athronydd byd-enwog Bertrand Russell yn ei gartref yng Nghymru.

Yng nghanol argyfwng taflegrau Cuba yn 1962 fe yrrwyd telegramau o dŷ ym Mhenrhyndeudraeth mae rhai'n dadlau wnaeth helpu osgoi rhyfel niwclear.

Yr awdur oedd Bertrand Russell, oedd wedi dod yn ôl i Gymru i fyw, ac roedd yn erfyn ar arweinyddion yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd i beidio dechrau brwydr ddinistriol fyddai'n effeithio'r byd cyfan.

Er bod gwahaniaeth barn ynglŷn â gwir effaith y telegramau, mae'r ffaith i John F. Kennedy a Nikita Khrushchev dderbyn ac ymateb i'w negeseuon mewn cyfnod mor dyngedfennol yn dangos statws rhyngwladol yr athronydd, oedd wedi lledu ymhell tu hwnt i'r byd academaidd.

Yn ôl y newyddiadurwr a'r darlledwr Alistair Cooke, yr Arlywydd Kennedy ei hun wnaeth ddelio gyda'r cyfathrebiad. Ymateb Khrushchev oedd cyhoeddi llythyr agored i Russell oedd yn dangos awydd am gyfaddawd am y tro cyntaf ers dechrau'r argyfwng.

Ffynhonnell y llun, .
Disgrifiad o’r llun,

O Washington DC i Benrhyndeudraeth (Archif William Ready, Llyfrgell Prifysgol McMaster)

Ffynhonnell y llun, .
Disgrifiad o’r llun,

Ail ran y neges - a cherydd - gan yr Arlywydd Kennedy. Roedd ymateb arweinydd yr Undeb Sofietaidd yn fwy gwresog (Archif William Ready, Llyfrgell Prifysgol McMaster)

Cafodd Bertrand Russell ei eni yn Nhrellech, Gwent, i deulu aristocrataidd. Roedd yn amddifad cyn iddo fod yn bedair oed a threuliodd weddill ei blentyndod gyda'i nain a'i daid, yr Arglwydd John Russell - a fu'n brif weinidog ddwywaith.

Dilynodd yrfa academaidd ddisglair yng Nghaergrawnt, yr Unol Daleithiau a China a chyhoeddodd nifer o lyfrau am fathemateg ac athroniaeth cyn newid trywydd.

Gwrthod cyfoeth

Safodd fel ymgeisydd i'r Senedd yn 1907, ar ran y Women's Suffragette Society, a rhoddodd y rhan fwyaf o'i gyfoeth i eraill oherwydd ei gred bod etifeddu cyfoeth yn anfoesol.

Cythruddodd y boneddigion gyda'i foesau 'llac', gan honni bod dynol ryw yn medru dygymod â mwy nag un partner rhywiol. Roedd bod yn hoyw, a rhyw rhwng y di-briod yn iawn hefyd, meddai.

Fel heddychwr, collodd ei swydd pan ddechreuodd y Rhyfel Mawr a bu yn y carchar am chwe mis am sarhau byddin America. Ar ddiwedd y rhyfel aeth i Rwsia lle cyfarfu â Lenin a Trotsky, ond trodd yn erbyn y neges Bolsiefic.

Pan gyrhaeddodd 50 oed fe drodd at yrfa newydd, yn ysgrifennu ac yn darlithio ar bob math o bynciau ac fe enillodd Wobr Nobel yn 1945 am ei lyfr A History of Western Philosophy.

Symudodd i fyw i Blas Penrhyn, dafliad carreg o bentref gwyliau Portmeirion, ym Mhenrhyndeudraeth, yn 1955.

Ffynhonnell y llun, Keystone-France
Disgrifiad o’r llun,

Bu Bertrand Russell yn un o arweinyddion y mudiad heddwch a gwrth-niwclear

Erbyn hynny roedd yn un o arweinyddion y mudiad gwrth-niwclear ac fe'i carcharwyd yn 1961 - ac yntau dros ei 90 - gyda'i bedwaredd wraig, Edith Finch, am gymryd rhan mewn protest.

Bu'n llythyru ar hyd ei oes, yn cynnwys gydag enwogion fel Albert Einstein, T.S. Eliot, Aldous Huxley, Martin Luther King Jr. a Franklin D. Roosevelt.

Ym Mhlas Penrhyn, ynghyd â'r telegramau i Kennedy a Kruschchev, ysgrifennodd ei hunangofiant ac yn y llyfrau mae'n sôn am yr ardal:

"Mwy na dim, roedd golygfeydd hyfryd tua'r de i'r môr, i Borthmadog a bryniau Caernarfon yn y gorllewin, ac i fyny Dyffryn Glaslyn hyd at yr Wyddfa.

"Fe'm swynwyd gan y tŷ, ac fe'm hysgogwyd yn fawr gan y ffaith bod Shelley wedi byw yn y tŷ ar draws y dyffryn. Roedd perchennog Plas Penrhyn yn barod i rentu'r tŷ i ni, yn bennaf rwy'n meddwl oherwydd ei fod yntau hefyd yn hoff o Shelley... yn hwyrach ymlaen cyfarfûm â dyn yn Nhan-y-Rallt a honnai fod Shelley yn ganibal.'

Ffynhonnell y llun, Slim Aarons
Disgrifiad o’r llun,

Yr athronydd yn ei gartref ym Mhlas Penrhyn

Amherthnasol i sefyllfa Cymru

Ond er iddo gael ei eni a threulio 15 mlynedd olaf ei oes yng Nghymru nid yw'n cael ei ystyried fel athronydd Cymreig.

"Bertrand Russell oedd yr athronydd pwysicaf a mwyaf adnabyddus yn yr ugeinfed ganrif - neu'n sicr os fyddech chi'n meddwl am y pump uchaf, yna byddai ffigwr fel Russell yn sicr yno," meddai Dr Huw Williams, darlithydd athroniaeth gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Rwy'n deall felly pam rydyn ni'n ymhyfrydu ynddo gan ei fod yn ffigwr enfawr yn y maes a thu hwnt i athroniaeth fel unigolyn, a'r hyn wnaeth o gyda'r mudiad heddwch. Felly yn fy marn i fe ddylwn ni ymhyfrydu ynddo, am ei fod yn berson anhygoel.

"Ond o ran ei farn ar Gymru neu Gymreictod neu athroniaeth ynglŷn â Chymru a'r problemau penodol sydd ganddon ni, dyw e ddim yn berthnasol o gwbl.

"Roedd yn dod o deulu oedd yn rhan o'r aristocracy Seisnig, oedd wedi mynd i fyw yng Nghymru gan eu bod yn hoff o Sir Fynwy, ond fe gafodd Bertrand Russell ei fagu yn Lloegr ers yn blentyn ifanc.

"Fe ddaeth yn ôl i Gymru, i ogledd Cymru, gan ei fod yn hoff o'r olygfa."

Ychwanegodd Dr Huw Williams mai ffigurau fel Robert Owen neu Sir Henry Jones fyddai'n cael eu hystyried yn athronyddwyr Cymreig gan fod eu ffordd o feddwl wedi cael ei ddylanwadu gan eu cefndir yng Nghymru - ac wedi cael effaith yn ei dro ar Gymru.

Bu farw Bertrand Russell ar ôl dal y ffliw ar 2 Chwefror, 1970, ym Mhlas Penrhyn, yn 97 mlwydd oed. Gwasgarwyd ei lwch ar y bryniau ger ei gartref.

Hefyd o ddiddordeb: