Diflaniad Michael O'Leary yn 'achos llofruddiaeth'

  • Cyhoeddwyd
Michael O'LearyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael O'Leary o Nantgaredig wedi bod ar goll ers dydd Llun

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod yn trin diflaniad dyn 55 oed o Sir Gâr fel achos o lofruddiaeth.

Dywedodd y llu eu bod yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld Michael O'Leary, o Nantgaredig, ers dydd Llun i gysylltu â nhw.

Cafodd dyn 52 oed o ardal Caerfyrddin ei arestio ddydd Iau, ac mae'r heddlu bellach wedi cadarnhau bod hynny ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae'n parhau yn y ddalfa tra bod ymchwiliad y llu yn parhau, ac mae teulu Mr O'Leary yn derbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol.

'Ystyried yr holl ffeithiau'

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad ag unrhyw un welodd gerbyd Mr O'Leary - Nissan Navara arian - rhwng Cwmffrwd a Chapel Dewi rhwng 20:00 a 22:00 nos Lun.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Jones bod eu hymchwiliad yn un "trwyadl sy'n symud yn gyflym".

"Ry'n ni'n ystyried yr holl ffeithiau a'r dystiolaeth o'n blaenau, sy'n cynnwys cwestiynu dyn allai fod â gwybodaeth allweddol all ein helpu," meddai.

"Rydyn ni'n deall y gallai'r datblygiad diweddaraf achosi pryder i'r gymuned, ond hoffwn eu sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ganfod atebion i deulu Mr O'Leary."