Dedfryd hir i ddyn o Borthmadog am dwyll rhyngwladol $7.8m
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Borthmadog wedi cael ei garcharu am saith mlynedd ac wyth mis ar ôl cyfaddef bod yn rhan o gynllwyn i gael miliynau o ddoleri gan gwmni o'r Unol Daleithiau trwy dwyll.
Fe wnaeth Michael Kinane, 41, gyfaddef gwneud $7.8m trwy dwyll ac ailgylchu arian yn anghyfreithlon.
Cafodd ei erlyn wedi ymchwiliad gan yr FBI a'r heddlu yn y DU, a'i arestio gan Heddlu Gogledd Cymru ym maes awyr Gatwick ar ôl hedfan i'r DU o Dwrci.
Plediodd yn euog i gyhuddiadau'n ymwneud â chael mynediad i systemau cwmni buddsoddiadau fferyllol - cwmni â'i phencadlys yn Llundain.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod e-byst ffug wedi eu gyrru at staff cwmni yn yr Unol Daleithiau yn gofyn am daliadau am waith oedd wedi'i wneud yn ddilys, gan roi manylion cyfrifon newydd.
Cyfrif Kinane oedd un o'r rheiny, ac fe gafodd gyfanswm o $7.8m ei dalu ar 2 Tachwedd 2018.
O fewn tridiau roedd yr arian wedi cael ei wasgaru i gyfrifon yng Ngwlad Pwyl, Yr Almaen, Hong Kong, China a Malaysia.
Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r FBI ddechrau ymchwiliad y mis hwnnw, cyn arestio Kinane ym mis Awst 2019.
Cafodd ei gyhuddo o gynllwynio i ailgylchu arian yn anghyfreithiol gyda phobl anhysbys, a thri chyhuddiad o dwyll mewn cysylltiad â phrynu cerbydau moethus.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi darganfod dogfennau 32 o gyfrifon banc sy'n gysylltiedig â Kinane hyd yma.
Erbyn hyn, mae'r heddlu ac awdurdodau ariannol yn y DU wedi llwyddo i adennill $1.6m a'i ddychwelyd i'r cwmni a gafodd ei dwyllo, ond mae'n golygu bod $6.4m yn dal heb ei ganfod.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearney fod achosion o dwyll yn gallu cael effaith "ddinistriol, o golledion na allai dioddefwyr bregus eu fforddio i amharu ar allu cyrff i barhau mewn busnes".
"Gyda'r cynnydd sylweddol yn yr achosion o dwyll sy'n cael eu cyflawni ar-lein erbyn hyn, mae twyllwyr yn gallu ecsploetio dioddefwyr o bell, yn aml o wlad arall," meddai.
"Yr hyn sy'n amlwg yw bod busnesau ac unigolion cyfoethog yn cael eu targedu'n gynyddol gan fod eu trafodion ariannol nhw yn fwy ac mae potensial i dwyllwyr gael symiau uwch."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2019