Pennaeth newydd i Ysgol Boderern wedi 'cyfnod 'heriol'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Uwchradd Bodedern

Mae Cyngor Môn yn bwriadu sefydlu Bwrdd Gwelliant Strategol mewn partneriaeth ag Estyn a Llywodraeth Cymru i gefnogi staff a chorff llywodraethu ysgol uwchradd ar yr ynys.

Dywed y cyngor fod pennaeth strategol newydd wedi ei benodi hefyd ar gyfer Ysgol Uwchradd Bodedern er mwyn goresgyn "cyfnod heriol".

Bydd Corff Llywodraethu'r ysgol hefyd yn dechrau'r broses o recriwtio pennaeth parhaol newydd yn ddiweddarach yn yr wythnos hon.

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth cyn-bennaeth yr ysgol gyhoeddi ei bod yn camu o'r neilltu yn dilyn cyfnod o salwch.

Cadarnhaodd llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Bodedern ar y pryd fod Catrin Jones Hughes yn gadael ei swydd fel prifathrawes. Mewn datganiad drwy gorff llywodraethu'r ysgol, nodwyd bod Mrs Hughes yn "gadael gyda thoreth o atgofion melys am lu o lwyddiannau o'r 12 mlynedd diwethaf".

Pennaeth newydd

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd y cyngor fod Emyr Williams wedi ei benodi fel pennaeth strategol yr ysgol ddydd Llun, ond bydd yn parhau fel pennaeth Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.

Dywedodd Emyr Williams yn y datganiad: "Fel y pennaeth strategol newydd, byddaf yn sicrhau mai disgyblion yr ysgol, yn enwedig y rhai fydd yn eistedd eu harholiadau TGAU a Lefel A yn yr haf, yw ein prif flaenoriaeth.

"Rwyf, wrth gwrs, yn hynod ymwybodol o bryderon disgyblion a'u rhieni. Wrth gydweithio gyda'r Bwrdd, byddwn yn darparu'r cymorth sydd ei angen i Ysgol Uwchradd Bodedern oresgyn y cyfnod heriol yma a gwneud cynnydd sylweddol gan yrru safonau ymlaen."

Mae gan Gyngor Sir Ynys Môn gyfrifoldeb statudol i fonitro a darparu cymorth ychwanegol pan fydd ysgol yn profi cyfnod o her arwyddocaol.

Bwrdd Gwelliant Strategol

Bydd y Bwrdd Gwelliant Strategol newydd yn dechrau ei waith yn hwyrach yn y mis am gyfnod o flwyddyn i ddechrau. Bydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Estyn, Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru (GwE) yn ogystal â Gwasanaeth Dysgu Ynys Môn.

Bydd y Bwrdd yn atebol i Lywodraeth Cymru, ac fe fydd y cynnydd yn cael ei fesur bob tymor.

Dywedodd deilydd portffolio Addysg Ynys Môn, y Cynghorydd Meirion Jones: "Mae gwasanaeth Dysgu'r Cyngor Sir a phartneriaid wedi bod yn cefnogi'r ysgol. Fodd bynnag, mae'r camau ychwanegol hyn yn cael eu cymryd i sicrhau cynnydd pellach ac er budd y disgyblion.

"Teimlwn mai cymorth gan bennaeth strategol a Bwrdd yw'r ffordd orau ymlaen i Ysgol Uwchradd Bodedern."

Ychwanegodd Mr Jones: "Ni wnaethpwyd y penderfyniad yn ysgafn a bydd er lles y disgyblion a'r staff.

"Bydd Emyr Williams a'r Bwrdd yn cefnogi ac yn gweithio gyda'r Corff Llywodraethu a'r Uwch Dîm Arweinyddol - gan ddarparu arweiniad arbenigol ychwanegol ar arweinyddiaeth a rheolaeth. Credaf y byddwn yn gwneud cynnydd drwy weithio'n agos gyda'n gilydd."