Caerdydd 3-3 Reading (Reading 4-1 ar giciau o'r smotyn)
- Cyhoeddwyd
Ar ôl bod ar y blaen 2-0 ar ôl dros awr o chwarae, colli o giciau o'r smotyn yn y diwedd oedd hanes Caerdydd yn y gêm ail chwarae ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.
Hwn oedd y trydydd tro i'r ddau dîm gwrdd mewn 10 diwrnod - gyda gemau cyfartal yn y Bencampwriaeth a'r cwpan.
Dechreuodd pethau yn addawol i'r brifddinas, gydag ergyd isel Josh Murphy yn eu rhoi ar y blaen.
Fe wnaeth Robert Glatzel roi nhw'n ymhellach ar y blaen yn dilyn chwarae taclus, ond fe roddodd peniad Omar Richards lygedyn o obaith i'r ymwelwyr.
Yna ar ôl 79 munud, fe wnaeth foli Andy Rinhimota ddod â'r timau yn gyfartal, gan olygu amser ychwanegol.
Aeth Caerdydd ar y blaen unwaith yn rhagor, Murphy yn elwa ar gamgymeriad yr amddiffynnwr Gabriel Osho.
Ond gyda dim ond pum munud yn weddill, fe sgoriodd Yakou Meite - ac felly roedd angen ciciau o'r smotyn i benderfynu ar yr enillydd.
Methodd Aden Flint a Will Vaulks gyda'u hymdrechion - gydag ymdrech Sone Aluko yn ddigon i roi buddugoliaeth o 4-1 ar giciau o'r smotyn i'r ymwelwyr.
Fe fydd Reading yn wynebu Sheffield United o'r Uwch Gynghrair yn y pumed rownd.