Twf 'aruthrol' yng ngêm rygbi cerdded yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae twf "aruthrol" wedi bod yng nghamp rygbi cerdded yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gydag Undeb Rygbi Cymru yn dweud bod "diddordeb wythnosol ar draws Cymru".
Mae un o sêr tîm rygbi Cymru yn y 70au - JPR Williams - yn un o' rhai sy'n cymryd rhan.
Dau dîm rygbi cerdded oedd yn bodoli 12 mis yn ôl ond erbyn hyn mae 16, a thimau newydd hefyd yn y broses o gael eu sefydlu.
Mae 300 o bobl yn cael cyfle i chwarae yn wythnosol wrth ymarfer ac mae'r timau yn chwarae yn erbyn ei gilydd bob mis.
Erbyn hyn mae canllawiau wedi eu sefydlu ar gyfer y cystadlaethau misol, sy'n cynnwys dim sgrymiau a dim rhedeg tra bo'r gêm yn digwydd.
Ond dyw'r rhain ddim yn bendant, gyda thimau yn cwrdd yn gyson er mwyn adolygu'r canllawiau.
"Fe wnaethon ni ddechrau ymwneud gyda rygbi cerdded tua 14 mis yn ôl," meddai Greg Woods, sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod rygbi yn hygyrch i bawb o fewn Undeb Rygbi Cymru.
"Roedd yna gwpl o dimau yn bodoli yng nghymoedd y Rhondda. Oedden ni yn teimlo bod e'n fformat gwych i'r gêm.
"Mae'n denu cynulleidfa ni ddim, fel arfer yn denu at rygbi ac yn yr 14 mis yna ni wedi gweld y gêm yn mynd o nerth i nerth."
'Dod o bobman'
Er bod rhai o'r timau yn dod o glybiau rygbi mae eraill o fyrddau iechyd ac elusennau, ac mae gwneud yn siŵr fod pawb yn cael cyfle yn bwysig medd Ioan Rhys Evans o'r undeb.
"Ni'n dweud 'crys i bawb' yn yr undeb, a gyda'r fformat hyn maen nhw'n gallu gwneud hwnna. Dyw e ddim jest i bobl sydd wedi chwarae rygbi o'r blaen," meddai.
"Chi'n gallu troi lan tro cyntaf gyda'r bêl yn eich dwylo a mynd mas a rhedeg gyda phobl chi ddim yn 'nabod.
"Dydyn nhw ddim yn gorfod dod o glwb rygbi i neud e. Maen nhw'n gallu dod o bobman."
Tra bo'r undeb yn cynnig cefnogaeth ac yn trefnu'r gemau misol, y bwriad yw bod y gamp yn tyfu yn "organig".
Mae'r mwyafrif sy'n chwarae hyd yn hyn yn bobl hŷn.
I Mike Tough, 73, oedd yn arfer bod yn adeiladwr, roedd yr elfen gwmnïaeth yn bwysig.
"Dwi wedi ymddeol ac yn gweld eisiau fy hen ffrindiau pan o'n i yn gweithio. Ro'n i yn edrych am rywbeth i wneud yn fy amser sbâr," meddai.
18 mis yn ôl cafodd ddamwain gas ar ôl disgyn o'r to a thorri ei belfis, ac eleni cafodd glun newydd.
"Penderfynais i ddod yn fwy heini ond dwi ddim yn hoffi mynd i'r gampfa bob dydd," meddai.
"Un diwrnod o'n i ym Mhont-y-clun a weles i y poster yn y ffenest swyddfa bost - Pontyclun Walking Rugby Club. Meddyliais i, 'na syniad da' felly ymunais i â'r clwb haf diwethaf."
'Dysgu sut i golli'
Gweithio yn Ysbyty Sant Cadog mae Owain Williams, yn cynnig cefnogaeth i bobl sydd â salwch iechyd meddwl.
Mae'n rhan o dîm gwasanaeth iechyd y Dreigiau a gafodd ei sefydlu gan y bwrdd iechyd lleol.
"Mae'n dda i'r bechgyn - gweithio mewn tîm, dysgu sut i golli," meddai.
"Mae llawer ohonyn nhw wedi cael problemau gyda'r gyfraith ac mae pethau fel gweithio mewn tîm yn massive iddyn nhw. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn really mwynhau e hefyd."
Yn nhîm Pont-y-clun mae gŵr a gwraig yn chwarae. Anne Jackson yw'r unig fenyw yn y tîm a dyma'r tro cyntaf i Gwynfor chwarae rygbi o unrhyw fath.
"Mae'n beth iach i wneud. 'Da ni'n teimlo bod y corff yn gryfach a falle bod ni'n mynd i fyw bach hirach," meddai Gwynfor.
Mae gan Bont-y-clun un fantais fawr dros y timau eraill gan fod un o'u chwaraewyr yn enw adnabyddus iawn fu'n chwarae i dimau llwyddiannus Cymru a'r Llewod - y cefnwr JPR Williams.
"Mae e wedi bod yn chwarae i ni ers y dechrau. Mae'n dod ar ei feic, yn ymuno a ni, ac yn dal i ddangos bod ganddo'r moves oedd ganddo fo ar y maes!" meddai Gwynfor sy'n dweud hefyd fod yr elfen gymdeithasol yn bwysig.
"Da ni yn cael pryd o fwyd gyda'n gilydd dros y Nadolig. Mae'r peth wedi troi yn glwb, lot o hwyl i'r tîm, weithiau yn troi yn gas pan mae pobl yn gollwng y bêl ond er y cwbl 'da ni'n cael hwyl!"