Dau lanc yn y llys wedi gwrthdrawiad angheuol

  • Cyhoeddwyd
Olivia AlkirFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Olivia Alkir yn dilyn y gwrthdrawiad ar 27 Mehefin 2019

Mae dau lanc o Sir Ddinbych wedi ymddangos mewn llys wedi'u cyhuddo o achosi marwolaeth merch 17 oed trwy yrru'n beryglus.

Bu farw Olivia Alkir fis Mehefin y llynedd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Ford Fiesta coch a Mercedes du ar y B5105 yn ardal Efenechtyd, rhwng Rhuthun a Cherrigydrudion.

Mae Thomas Quick, 18, o Glawddnewydd, a bachgen 17 oed o Ddyffryn Clwyd - na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol - hefyd yn wynebu pedwar cyhuddiad o achosi niwed difrifol trwy yrru'n beryglus.

Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod gan ynadon Llandudno nes eu gwrandawiad nesaf yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug ar 6 Mawrth. 

Cafodd pump o bobl eu hanafu yn y gwrthdrawiad.

Roedd Olivia newydd gael ei phenodi'n ddirprwy brif ferch Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun pan fu farw ac fe gafodd ei disgrifio gan ei theulu fel merch "llawn hwyl, doeth ac uchelgeisiol".