Ysgolion yn eithrio plant trwy 'fethu ADHD ac awtistiaeth'

  • Cyhoeddwyd
Cafodd Riley, 15, ei wahardd o'i ysgol am roi dwrn i'r pennaeth
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Riley, 15, ei wahardd o'i ysgol am roi dwrn i'r pennaeth

Mae yna bryder bod methiant ar ran ysgolion i adnabod arwyddion bod disgyblion trafferthus yn byw gydag ADHD (Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd) ac awtistiaeth yn cyfrannu at gynnydd yn y nifer sy'n cael eu gwahardd.

Yn ôl Kelly Rowlands, sy'n rhedeg ysgolion annibynnol ar gyfer plant sydd wedi cael eu heithrio, roedd saith o'i naw disgybl â chyflyrau oedd heb eu hadnabod.

Mae graddfa'r gwaharddiadau parhaol yng Nghymru wedi bron â dyblu rhwng 2014 a 2017 i 0.4 o bob 1,000 o ddisgyblion.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai "cam olaf un" yw gwahardd disgyblion yn barhaol.

'Diffyg adnoddau'

Dywedodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yn Ionawr 2019 bod 2,286 o ddisgyblion yng Nghymru'n derbyn addysg gan ddarparwyr amgen.

Roedd llawer o'r rheiny wedi'u heithrio o ysgolion neu mewn perygl o gael eu gwahardd.

Mae'r ffigyrau diweddaraf, o 2016/17, yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer y gwaharddiadau parhaol yng Nghymru mewn blwyddyn - o 109 i 165.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ysgolion yn canolbwyntio gormod ar ddata cyraeddiadau, yn ôl Kelly Rowlands

Dywedodd Ms Rowlands - uwch reolwr ysgolion ACT, sy'n rhedeg ysgolion a hyfforddiant ar gyfer plant sydd wedi eu heithrio o ysgolion yng Nghaerdydd a Chaerffili - nad oes digon o adnoddau'n mynd at ddeall beth sy'n achosi camymddygiad plentyn cyn dechrau'r broses o wahardd.

Mae nifer y ceisiadau i dderbyn plant yn ysgolion ACT wedi "treblu" mewn tair blynedd, meddai.

"Rwy'n meddwl bod ysgolion yn cael eu rhoi dan gryn dipyn yn fwy o bwysau yn nhermau canlyniadau a data cyraeddiadau," meddai.

"Os oes yna ddisgybl trafferthus yn y dosbarth, mae'n haws i'w tynnu nhw o'na a delio gyda'r gweddill nac ydy hi i ganolbwyntio a rhoi amser i'r un person yna."

Galwodd am "sgrinio dysgwyr yn llymach" cyn iddyn nhw gyrraedd ysgol uwchradd i geisio adnabod unrhyw anghenion arbennig allai fod wedi eu methu.

Disgrifiad o’r llun,

Plant sydd wedi eu heithrio'n barhaol yn chwarae pêl-droed yn un o ysgolion ACT

Cafodd Riley, 15, waharddiad yn fuan ar ôl dechrau yn yr ysgol uwchradd.

"Ro'n i wastad yn camymddwyn. Fe wnes i roi dwrn i'r pennaeth a thaflu cadair ato," meddai.

"Ro'n i'n gwylltio o hyd, gyda'r disgyblion a'r athrawon. O'n i jest ddim yn hoffi'r ysgol."

Roedd Riley ymhlith y disgyblion oedd heb gael diagnosis o'i gyflwr wrth gyrraedd ysgol ACT.

Diweithdra a dedfrydau carchar

Mae'r Athro Amanda Kirby o Brifysgol De Cymru yn ymchwilio i gysylltiad rhwng gwaharddiadau ysgol ac anghenion addysg ychwanegol.

Mae'n dweud bod plant ag anghenion addysgol arbennig "saith gwaith yn fwy tebygol" o gael eu heithrio na disgyblion eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Amanda Kirby bod methu'r cyflyrau dan sylw yn gallu arwain at ddiweithdra a dedfrydau carchar

Dywedodd bod angen bod yn effro i'r cynnydd mewn gwaharddiadau yng Nghymru, "er eu bod yn gymharol brin", oherwydd yr effeithiau tymor hir posib.

Canlyniad methiant i adnabod cyflyrau a rhoi cefnogaeth "yw bod pobl ifanc â risg uwch o fod yn ddi-waith", meddai.

Yn achos rhai unigolion, dywedodd yr Athro Kirby y "gallai'r llwybr arwain i'r sector gyfiawnder, i garchardai".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein canllawiau'n amlygu'n glir mai cam olaf un ddylai gwaharddiad parhaol fod a dim ond pan fo pob strategaeth arall i gefnogi disgybl wedi methu."

Mae deddfwriaeth wedi'i chyflwyno i ddelio â thrafferthion ymddygiad yn fwy prydlon ac effeithiol, meddai.

Ychwanegodd: "Rydym hefyd yn buddsoddi £8m ychwanegol eleni i helpu ysgolion a cholegau i roi'r addysg orau bosib i ddysgwyr ag anghenion addysgol ychwanegol."