'Gall gwasanaethau tân ddelio â bygythiadau eraill'
- Cyhoeddwyd
Fe allai gwasanaethau tân ac achub Cymru chwarae rhan ehangach o ran cadw'r cyhoedd yn ddiogel dan gynigion newydd.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r gwasanaethau wedi llwyddo cystal i atal achosion o dân nes eu bod â digon o amser i fod mewn sefyllfa i dderbyn dyletswyddau newydd.
Maen nhw'n dweud bod nifer o orsafoedd tân gwledig yn anghynaladwy gan eu bod ond yn ymateb i nifer fach o danau bob mis.
Dywed gweinidogion y gallai'r gwasanaeth tân wneud gwaith sy'n cael ei gwblhau gan y GIG ar hyn o bryd.
Mae Undeb y Brigadau Tân - yr FBU - wedi cael cais am ymateb.
'Arbenigedd a pharch'
Mewn datganiad, mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am y gwasanaeth tân, Hannah Blythyn, yn dweud bod pwyslais y gwasanaethau ar atal tanau a gwella ymwybyddiaeth o risgiau tân wedi cyfrannu at leihau nifer, a difrifoldeb, achosion o dân,
"Mae diffoddwyr tân wedi cael eu hyfforddi'n dda i ddelio ag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, yn ogystal â thân," meddai, sy'n golygu eu bod â'r "arbenigedd a'r parch" i godi ymwybyddiaeth ynghylch bygythiadau eraill hefyd, ac i'w hatal.
"Mae potensial amlwg i'r gwasanaeth wneud cyfraniad gwirioneddol at gefnogi'r GIG yn benodol, boed hynny o ran ymateb i argyfyngau meddygol neu helpu i atal damweiniau fel codymau yn y cartref," dywedodd, "ac mae tystiolaeth glir y gall hyn sicrhau gwell canlyniadau ac arbedion sylweddol."
Dywed Ms Blythyn bod yna nifer o "enghreifftiau da o hyn yn digwydd" yn achlysurol - ar raddfa fechan, yn aml - ond mae hi'n credu bod "gofyn i ni fynd ymhellach... mewn ffordd fwy cyson a strategol.
"Rwy'n dymuno gweld Gwasanaeth Tân ac Achub sy'n delio ag amryw o fygythiadau i iechyd a diogelwch pobl, a hynny o ran atal ac ymateb i argyfyngau, gan ategu yn hytrach na dyblygu gwaith gweithwyr proffesiynol eraill.
"Dim ond drwy wneud hyn y gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar werth cyhoeddus y Gwasanaeth a sicrhau dyfodol cynaliadwy ar ei gyfer."
Ychwanegodd y bydd yna gyhoeddiad arall maes o law "ynglŷn â'r ffordd ymlaen".
Angen cytundeb cadarn
Dywed Llywodraeth Cymru bod angen cytundeb ynghylch tâl ac amodau diffoddwyr tân i adlewyrchu unrhyw ddyletswyddau ehangach yn deg, ond bod trafodaethau "ar lefel y DU wedi bod yn araf iawn yn hyn o beth".
Maen nhw'n dweud eu bod wedi ymrwymo "i ystyried darparu cymorth ariannol ar gyfer cytundeb tâl sy'n bodloni anghenion Cymru a diffoddwyr tân Cymru".
Mae eu datganiad yn mynd ymlaen i ddweud bod angen "cytundeb cadarn a strategol rhwng y Gwasanaeth Tân, y GIG a phartneriaid eraill, er mwyn gallu defnyddio adnoddau'r cyntaf lle mae eu hangen fwyaf" a bod "uwch reolwyr eisoes yn cynnal trafodaethau adeiladol ynghylch hyn".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2018