Achos o ddwyn gwerth £1.80 yn mynd i Lys y Goron

  • Cyhoeddwyd
Llys goronol yr Wyddgrug
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib all yr achos llys barhau am ail ddydd

Mae cynghorydd wedi ymddangos yn Llys y Goron ar ôl cael ei chyhuddo o ddwyn tabledi gwerth £1.80 o siop leol.

Ymddangosodd Myfanwy Noella Elliot, 66, yn Llys y Goron yr Wyddgrug fore Gwener wedi ei chyhuddo o ddwyn yr eitem.

Plediodd Ms Elliot, o Fryn-y-Gog, Machynlleth, yn ddieuog i'r cyhuddiad ei bod wedi dwyn y paced o dabledi Panadol Advance o siop y Co-operative.

Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth, a gall achos newydd ddechrau yn Llys y Goron Caernarfon ar 4 Mawrth.

Cadarnhaodd bargyfreithiwr yr erlyniad mai Ms Elliot oedd wedi ethol i gael clywed yr achos yn Llys y Goron.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands nad oedd yn cofio gweld y fath yma o achos yn cael ei glywed yn Llys y Goron.

Ychwanegodd ei fod yn amlwg yn achos pwysig i'r diffynnydd ac nad oedd yn arferol gweld achos o'r fath mewn llys uwch.