Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-3 Derby County

  • Cyhoeddwyd
Conor Gallagher o Abertawe a Matthew Clarke o Derby County yn cystadlu am y bêlFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Conor Gallagher o Abertawe a Matthew Clarke o Derby County yn cystadlu am y bêl

Fe gollodd Abertawe adref yn erbyn Derby County yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn a hynny yn y munudau olaf.

Martyn Waghorn a sgoriodd gyntaf i'r ymwelwyr a hynny ym munudau cyntaf y gêm a dyna oedd yn gwahanu'r ddau dîm ar yr egwyl.

Ond cyn pen yr awr fe wnaeth Yan Dhanda a Kyle Naughton sgorio ac roedd yr Elyrch ar y blaen.

Roedd dechrau'r ail hanner yn llawn cyffro ac fe unionodd Duane Holmes o Derby County y sgôr ac wedi 80 munud rhoddodd y Cymro, Tom Lawrence yr ymwelwyr ar y blaen.

I roi halen ar y briw fe enillodd Caerdydd yn erbyn Luton Town ac maen nhw yn wythfed yn y tabl tra bod yr Elyrch yn nawfed.