Deddf i gryfhau hawliau tenantiaid di-fai yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd tenantiaid yn cael chwe mis o rybudd yn lle dau os yw eu landlord eisiau iddyn nhw symud allan, o dan gyfraith newydd.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y newid yn amddiffyn rhentwyr rhag cael eu gyrru o'u cartrefi heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain.
Bydd modd i landlordiaid roi mis o rybudd i denantiaid adael os ydyn nhw'n mynd yn groes i'w cytundebau - er enghraifft, trwy niweidio eiddo neu fethu talu eu rhent ar amser.
Fe fydd troi unigolion o'u cartrefi, lle nad oes bai arnyn nhw, yn cael ei wahardd yn Lloegr hefyd, ac mae hyn yn barod wedi ei wahardd yn Yr Alban.
'Amddiffyniadau sylweddol pellach'
Bydd y cynigion yng Nghymru - fydd yn dod i rym yn 2021 os cawn nhw eu cymeradwyo yn y Senedd - hefyd yn atal gyrru pobl o'u tai yn chwe mis cyntaf eu tenantiaeth.
Dim ond y pedwar mis cyntaf sy'n cael eu gwarchod ar hyn o bryd.
Mae'n golygu y bydd rhentwyr sy'n cadw at eu contractau yn sicr o gael 12 mis heb fygythiad o gael gorchymyn i adael ar ôl symud i gartref newydd.
Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James, y byddai newid y drefn yn "ychwanegu amddiffyniadau sylweddol pellach i'r rhai sy'n rhentu eu cartrefi".
Bydd yn rhoi "mwy o amser i denantiaid ddod o hyd i lety diogel os yw'r landlord eisiau'r tŷ yn ôl", meddai.
Ychwanegodd bod y mwyafrif o landlordiaid preifat yn dda, "ond mae gennym dystiolaeth nad yw rhai wedi bod cystal ag yr hoffem ni".
"Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw sicrhau bod landlordiaid da yn cael eu gwobrwyo a bod landlordiaid gwael yn gadael y farchnad, a bod y sector rhentu preifat yn sector da i greu cartref."
Hysbysiadau Adran 21
Mae 30% o gartrefi yn cael eu rhentu yng Nghymru - 209,000 gan landlordiaid preifat a 229,000 gan gynghorau neu gymdeithasau tai.
Ar hyn o bryd gall landlordiaid roi deufis o rybudd o dan yr hyn a elwir yn hysbysiad Adran 21, ac mae Llywodraeth Cymru eisiau cael gwared ar hynny.
Dywedodd Douglas Haig, o Gymdeithas y Landlordiaid Preswyl, fod hysbysiadau adran 21 yn cael eu defnyddio'n bennaf i fynd i'r afael â thenantiaid sydd â dyledion rhent neu sy'n achosi niwsans.
Gall mynd trwy'r llysoedd i sicrhau bod tenant yn gadael ar ôl iddyn nhw ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol gymryd llawer mwy o amser, meddai, ac "yn aml iawn mae'r cymdogion yn rhy ofnus i gymryd rhan ac mae'r heddlu'n rhy brysur i wneud unrhyw beth".
Ychwanegodd: "Ry'n ni'n cytuno bod angen i ni ddarparu rhywbeth sy'n gwneud i'r eiddo deimlo fel cartref i bobol sy'n rhentu.
"Fodd bynnag, ry'n ni'n teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y gofynion technegol o ran pam mae pethau'n bodoli, a pham mae pethau'n digwydd yn y sector rhentu preifat o safbwynt y landlordiaid."
Oedi cyn cyflwyno
Mae'r cynigion ymhlith cyfres o newidiadau i'r gyfraith ar rentu sydd i'w cyflwyno'r flwyddyn nesaf.
Bydd yn rhaid i landlordiaid gydymffurfio â rheoliadau newydd i sicrhau eu bod yn darparu cartrefi sydd mewn cyflwr addas i bobl fyw ynddyn nhw.
Cafodd deddfwriaeth ei gymeradwyo yn y Senedd yn 2016, ond roedd oedi cyn ei gyflwyno yn rhannol yn sgil trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch systemau TG (Technoleg Gwybodaeth) newydd.
Mae cost y diweddariad TG, y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i'w dalu, yn dal i gael ei drafod. Ond dywedodd Ms James y byddai "rhywle oddeutu £700,000 i £1m".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2016