Bachgen o Gasnewydd wedi derbyn ysgoloriaeth tenis i America

  • Cyhoeddwyd
Harri Lloyd-Evans
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Harri yn treulio pedair blynedd yn yr Unol Daleithiau

Mae bachgen 17 oedd o Gasnewydd wedi ennill ysgoloriaeth i chwarae tenis yn Denver yn yr Unol Daleithiau.

Dechreuodd Harri Lloyd-Evans chwarae tenis bron i 10 mlynedd yn ôl ac ef bellach ydy'r ail chwaraewr gorau yng Nghymru o dan 18 oed.

Bydd yn dod yn rhif un yn rhestr detholion Cymru erbyn mis Ebrill.

Dywedodd ei fod yn teimlo "rhyddhad" ar ôl derbyn y newyddion ei fod wedi llwyddo i gael yr ysgoloriaeth.

"Mae'n gyfle da i fi gario ymlaen gyda fy nhenis ar lefel uchel iawn," meddai.

Bydd Harri yn mynychu prifysgol MSU Denver o fis Awst y flwyddyn hon.

Gobeithion am y dyfodol

Dechreuodd Harri - sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gwynllyw - chwarae tenis yn gymdeithasol yn ei glwb lleol yn wyth mlwydd oed.

Erbyn hyn, mae'n aelod o sawl dîm - gan gynnwys tîm Met Caerdydd, tîm dan 18 de Cymru a thîm dynion de Cymru.

Dywedodd: "Mae yna lawer o elfennau gwahanol i denis, mae'n seicolegol iawn, mae'n ffisegol iawn... ac mae'n gêm gymdeithasol iawn."

Mae Harri'n cystadlu'n gyson ac mae wedi chwarae mewn cystadlaethau yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at chwarae ar lefel uchel dros y pedair blynedd nesaf.

Wrth sôn am ei obeithion am y dyfodol a'r breuddwyd o gystadlu yng nghystadleuaeth Wimbledon, dywedodd: "Ti byth yn gwybod - ond gobeithio."