Pryder o hyd ynghylch gwasanaethau addysg yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaethau addysg yn Sir Benfro yn destun "pryder sylweddol", yn ôl adroddiad beirniadol gan y corff arolygu ysgolion, Estyn.
Doedd sgiliau darllen, rhifedd a Chymraeg ail iaith disgyblion ddim yn cyrraedd y nod yn oddeutu hanner ysgolion cynradd y sir, ac yn y tair ysgol uwchradd sydd wedi'u harolygu ers 2017.
Mae yna wendidau hefyd yn safonau dysgu, ymddygiad gwael ymhlith disgyblion uwchradd, a lefel uchel o waharddiadau tymor byr.
Dyma'r drydedd sir yn ddiweddar lle mae Estyn wedi sôn am "bryder sylweddol" - Wrecsam a Phowys yw'r ddwy sir arall.
Mae'n golygu fod angen i'r gwasanaeth addysg yn y siroedd yma wella ac y byddan nhw'n cael eu monitro gan Estyn.
Mae Cyngor Sir Penfro'n cydnabod bod newidiadau'n rhy araf ac anghyson ers i wasanaethau addysg y sir gael eu gosod dan fesurau arbennig yn 2012, er i Estyn nodi peth cynnydd.
Cafodd y mesurau arbennig eu codi yn 2014.
Safonau'n 'rhy amrywiol'
Mae'r adroddiad - y cyntaf ers 2011 - yn edrych ar holl ddarpariaeth y sir, sydd â chwe ysgol uwchradd, dwy ysgol 3-16 oed, a 52 o ysgolion cynradd.
Ers 2011, mae'r cyngor wedi penodi sawl uwch swyddog newydd, gan gynnwys prif weithredwr a chyfarwyddwr plant ac ysgolion.
Dywed Estyn fod safonau disgyblion yn "rhy amrywiol", yn "dda neu'n well mewn hanner yr ysgolion cynradd yn unig a arolygwyd yn y tair blynedd ddiwethaf" - perfformiad sy'n "sylweddol is" na'r cyfartaledd cenedlaethol.
Er gwelliannau mewn "ychydig" o'r ysgolion, roedd canlyniadau "islaw disgwyliadau" mewn lleiafrif.
Mae "cyflawniad disgyblion mewn Cymraeg mamiaith yn gryf", medd yr adroddiad ond maen nhw'n poeni bod "diffygion yn ansawdd yr addysgu" yn cyfyngu ar gynnydd disgyblion ail iaith.
Mae'r diffygion yn cynnwys "disgwyliadau isel a diffyg cyfleoedd cynyddol a chynlluniedig i ddatblygu llythrennedd, rhifedd a Chymraeg ail iaith ar draws y cwricwlwm".
Gwella ymddygiad
Mae'r adroddiad yn canmol camau i wella ymddygiad disgyblion, yn arbennig yn ysgolion cynradd, ond yn nodi bod ymddygiad disgyblion mewn nifer fach o ysgolion uwchradd ddim yn ddigon da.
Mae'n dweud bod nifer y gwaharddiadau parhaol yn fach, ac yn cyd-fynd â chyfartaledd Cymru, ond bod nifer y disgyblion uwchradd sy'n cael hyd at bum niwrnod o waharddiad "gryn dipyn yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol".
"Ychydig iawn o ysgolion uwchradd sy'n cyfrif am gyfran uchel o'r gwaharddiadau hyn," medd Estyn.
Mae'r adroddiad hefyd yn canmol "gweledigaeth uchelgeisiol" a "strategaeth glir" y cyngor o ran ad-drefnu addysg ond yn dyfarnu bod y cynlluniau gwella "ddim yn ddigon craff".
Mae'r arolygwyr yn nodi pedwar argymhelliad i fynd i'r afael â'u "pryder sylweddol" ynghylch gwasanaethau addysg y sir:
Codi safonau mewn ysgolion, yn enwedig mewn llythrennedd, rhifedd a Chymraeg ail iaith;
Gwella'r deilliannau ar gyfer yr holl grwpiau o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a'r rhai sy'n fwy abl;
Gwella effeithiolrwydd gwaith yr awdurdod i wella addysgu ac arweinyddiaeth ysgolion;
Cryfhau ansawdd y gwerthuso.
Dywedodd Cyngor Sir Penfro fod yr adroddiad yn nodi nifer o welliannau ers rhoi'r awdurdod addysg dan fesurau arbennig yn 2012, a bod "cynnydd cryf" o ran gweithredu argymhellion y gorffennol mewn cysylltiad â diogelu plant a phobl ifanc.
Ond maen nhw'n derbyn bod "safonau mewn ysgolion yn dal yn rhy amrywiol", gan ymroddi i weithio gydag ysgolion i sicrhau gwelliannau.
Dywedodd y Cyngorydd Guy Woodham, sy'n arwain ar faterion addysg y sir: "Mae cyflymder newid ar draws yr awdurdod lleol wedi bod yn anghyson a heb ddigwydd yn ddigon sydyn."
Ychwanegodd bod hi'n bwysig "i bawb sydd ynghlwm ag addysg ganolbwyntio ar frys nawr ar godi canlyniadau a gwella'r ansawdd dysgu ymhob un o'n hysgolion".