Gangiau cyffuriau yn 'ffugio bod yn fyfyrwyr'

  • Cyhoeddwyd
CyffuriauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pryder fod gangiau cyffuriau yn ffugio bod yn fyfyrwyr, neu hyd yn oed yn cofrestru ar gyrsiau prifysgol, er mwyn lledaenu eu cynnyrch yng Nghymru.

Daw yn dilyn tri digwyddiad ym Mangor yn ddiweddar, ble mae pobl sy'n cael eu hamau o fod yn delio cyffuriau wedi honni eu bod yn fyfyrwyr, er nad oedd ganddyn nhw unrhyw dystiolaeth eu bod yn rhan o Brifysgol Bangor.

Mae un o'r tri eisoes wedi cael ei garcharu ar ôl cael ei ddal gyda heroin a chocên.

"Mae'n her gymhleth i ni oll," meddai Kevin Child, cyfarwyddwr gwasanaethau myfyrwyr Prifysgol Abertawe, sydd wedi newid ei bolisi i fyfyrwyr yn ddiweddar er mwyn cynnwys bygythiad posib gangiau.

"Y wybodaeth ry'n ni'n ei gael yw bod delwyr cyffuriau county lines â chymaint o arian fel eu bod yn gallu fforddio gwneud cardiau adnabod ffug a ffugio cefndiroedd pobl.

"Does dim ffordd y gallwn ni ymchwilio mor drwyadl â hynny i gefndiroedd pobl, felly'r hyn ry'n ni'n ei wneud yw hyfforddi pobl ynglŷn â beth i gadw golwg amdano er mwyn adnabod pobl sy'n delio."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder fod myfyrwyr dilys gael eu targedu gan gangiau i ddelio cyffuriau

Beth yw County Lines?

Mae County Lines yn drefn sy'n gweld gangiau dinesig o Lundain, Lerpwl a Birmingham yn dod â ffonau symudol nad oes modd eu holrhain i ardaloedd gwahanol er mwyn gwerthu cocên a heroin yn uniongyrchol ar y stryd.

Mae pobl ifanc lleol wedyn yn gwerthu'r cyffuriau mewn ardaloedd trefol ar draws y DU.

Mae'r gangiau yn aml yn ecsploetio pobl ifanc bregus i ddarparu lleoliadau i storio'r cyffuriau yn yr ardaloedd newydd.

Fe wnaeth yr Arolygydd Jon Aspinall o Heddlu Gogledd Cymru arestio Dean McFadden, 26 - deliwr cyffuriau county lines o Lerpwl - yn ddiweddar.

Pan wnaeth yr heddlu ei holi ger un o adeiladau Prifysgol Bangor fe wnaeth McFadden geisio honni ei fod yn fyfyriwr.

Fe wnaeth yr heddlu ganfod ei fod yn cario gwerth tua £900 o heroin a chocên, ac fe gafodd ei ddedfrydu i dair blynedd a phedwar mis o garchar.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru/CPS
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dean McFadden ei garcharu fis diwethaf am fod â heroin a chocên yn ei feddiant

Dywedodd yr Arolygydd Aspinall nad oes tystiolaeth bod unrhyw un sydd wedi cael eu harestio ym Mangor ar amheuaeth o ddelio cyffuriau â chysylltiadau dilys at y brifysgol.

"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r brifysgol ac wedi datblygu cysylltiadau cryf felly os ydyn ni'n stopio unrhyw un ry'n ni'n gallu darganfod yn sydyn os ydyn nhw'n fyfyrwyr ai peidio," meddai.

Ychwanegodd Mr Child fod Prifysgol Abertawe hefyd wedi bod yn cydweithio â'r heddlu er mwyn lleihau'r risg i fyfyrwyr dilys gael eu targedu gan gangiau i ddelio cyffuriau.

'Gangiau yn cofrestru ar gyrsiau'

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod yn benderfynol o wneud yr ardal yn lle anodd i gangiau troseddol.

"Mae gangiau o Lundain, Lerpwl a Birmingham yn gweithredu yn ardal de Cymru, ar y cyd â delwyr cyffuriau lleol," meddai.

"Yr awgrym yw bod gangiau county lines wedi newid eu tactegau dros amser er mwyn defnyddio unigolion lleol i ddelio cyffuriau ar eu rhan er mwyn osgoi cael eu hadnabod.

"Diolch i waith Heddlu De Cymru rydyn ni wedi gweld gostyngiad yn nifer y gangiau county lines sy'n gweithredu o fewn ein hardal.

"Mae cofrestru ar gyrsiau prifysgol er mwyn gwneud delio cyffuriau county lines yn haws yn dacteg sy'n cael ei ddefnyddio gan gangiau ar draws y wlad, ond does dim gwybodaeth i awgrymu bod hyn yn broblem yn ne Cymru ar hyn o bryd."