Staff trenau Cymru i wisgo camerâu corff i leihau trais

  • Cyhoeddwyd
Camera corffFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y camerâu yn cael eu rhoi i staff, gan gynnwys gweithwyr ar y trenau a staff gorsafoedd

Bydd rhai aelodau o staff ar drenau yng Nghymru yn gwisgo camerâu corff mewn ymdrech i leihau trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cafodd dros 350 o ddigwyddiadau o drais corfforol tuag at staff ac aelodau'r cyhoedd eu cofnodi yng Nghymru y llynedd.

Mae mwy o staff diogelwch wedi'u cyflogi ac mae ymrwymiad i roi camerâu teledu cylch cyfyng ym mhob gorsaf ar draws y rhwydwaith.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod y cam diweddaraf yn rhan o brawf i wella diogelwch cwsmeriaid a staff.

359 digwyddiad o drais

Cofnododd Heddlu Trafnidiaeth Prydain 359 o ddigwyddiadau o drais tuag at staff neu aelodau'r cyhoedd yng Nghymru yn 2018-19.

Mae hynny o'i gymharu â 293 o ddigwyddiadau yn 2017-18 a 214 yn 2016-17.

Hefyd, bu 364 o achosion o anhrefn cyhoeddus ar y rheilffyrdd yng Nghymru yn 2018-19, o'i gymharu â 307 yn 2017-18 a 200 yn 2016-17.

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pedwar math gwahanol o gamera yn cael eu defnyddio fel rhan o'r treial

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru - sy'n goruchwylio masnachfraint Cymru a'r Gororau - er bod nifer y digwyddiadau'n "fach" mewn perthynas â chyfanswm nifer y teithwyr a'r siwrneiau, "ni ddylid goddef unrhyw ddigwyddiad".

Yn ôl un sy'n gweithio ar y trenau, Marc Clancy, mae'r mwyafrif o gwsmeriaid yn gwrtais ond ar adegau mae staff yn wynebu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

"Dylai cyflwyno'r camerâu hyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, cefnogi erlyniadau a hybu hyder y cyhoedd mewn diogelwch," meddai.

"Byddan nhw'n rhoi mwy o hyder i'n staff rheng flaen wrth ddelio â sefyllfaoedd anodd a chwsmeriaid sy'n creu trafferth."

'Sicrhau euogfarnau'

Dywedodd yr Uwcharolygydd Andrew Morgan o Heddlu Trafnidiaeth Prydain: "Rydym yn llwyr gefnogi cyflwyno camerâu i'w gwisgo ar y corff ar gyfer staff rheng flaen Trafnidiaeth Cymru.

"Rydyn ni'n gwybod o brofiad bod fideo wedi'i wisgo ar y corff yn ddarn gwych o offer sy'n ein helpu ni i erlyn yn llwyddiannus y rhai sy'n targedu staff â thrais neu gamdriniaeth ddiangen."

Bydd y camerâu yn cael eu rhoi i staff rheilffordd dethol gan gynnwys gweithwyr ar y trenau a staff gorsafoedd fel rhan o dreial sy'n cynnwys pedwar math gwahanol o gamera.

Yn dilyn adolygiad bydd un cwmni'n cael ei ddewis i ddarparu 300 o gamerâu ar draws y rhwydwaith.