Clirio a chyfri'r gost wedi difrod Storm Dennis
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o gymunedau yn ne Cymru yn cyfri'r gost a chlirio'r difrod yn sgil effaith dinistriol Storm Dennis dros y penwythnos.
Mae nifer o drenau wedi eu canslo a ffyrdd wedi'u cau wedi i rannau o'r wlad weld gwerth mis o law mewn 48 awr.
Cyhoeddodd Heddlu De Cymru ddydd Sul fod y llifogydd yn "ddigwyddiad difrifol" wrth i'r storm gael effaith ar gannoedd o gartrefi a busnesau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n trenu cyfarfod yr wythnos hon yn cynnwys arweinwyr cynghorau a'r gwasanaethau brys i asesu effaith y difrod.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Rhybuddiodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod dau rybudd difrifol am lifogydd - sy'n golygu perygl i fywyd - dros nos Lun yn Nhrefynwy.
Dywed CNC fod pobl eisoes wedi gadael eu tai yn yr ardal am fod perygl y bydd yr Afon Gwy yn gorlifo - gyda lefel yr afon ar ei uchaf rhwng 03:00 a 07:00 fore Mawrth.
'Canslo trenau yn anochel'
Daeth rhybudd melyn am wynt i ben am 11:00 ddydd Llun ond mae disgwyl glaw trwm eto yn rhannau helaeth o Gymru ganol yr wythnos.
Siroedd Ynys Môn, Y Fflint a Phenfro yw'r unig fannau sy'n debygol o osgoi'r glaw gwaethaf rhwng 18:00 ddydd Mercher a 15:00 ddydd Iau, yn ôl rhybudd diweddaraf y Swyddfa Dywydd.
Dywedodd Bethan Jelphs o Drafnidiaeth Cymru: "Mae llawer o ddifrod wedi bod i'r rhwydwaith drenau ac mae nifer o ffyrdd ar gau sy'n golygu mai cyfyngedig fydd unrhyw wasanaeth bysus.
"Mae'n anochel y bydd gwasanaethau wedi'u gohirio neu ganslo.
"Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu bysus pan yn bosibl lle fydd trenau wedi'u canslo."
Dydy'r gwasanaethau canlynol ddim ar gael ddydd Llun:
Leiniau'r Cymoedd o Gaerdydd - mae llifogydd i'r gogledd o Bontypridd yn golygu na fydd gwasanaethau i Aberdâr, Porth na Merthyr Tudful;
Glyn Ebwy - lein Crosskeys ar gau oherwydd tirlithriad;
Casnewydd i Henffordd - bydd bysus yn lle trenau gan fod difrod i'r lein oherwydd llifogydd;
Lein Calon Cymru - ar gau oherwydd llifogydd yn Nhrefyclo;
Dyffryn Conwy - bysus rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog;
Lein Cambrian - bysus rhwng Amwythig ac Aberystwyth a rhwng Machynlleth a Phwllheli.
Ychwanegodd Ms Jelphs: "Mae'r sefyllfa yn newid drwy'r amser ac mae'n debyg y bydd newidiadau funud olaf i'r gwasanaethau gydol y dydd.
"Dylai pobl wirio'u taith ar ein gwefan cyn cychwyn."
Yn Rhondda Cynon Taf, roedd yna ddifrod sylweddol i eiddo yn ardaloedd Pontypridd a Ffynnon Taf gyda cheir a strydoedd dan ddŵr.
Mae'r gwasanaethau brys wedi gwneud cais am ddeunyddiau i helpu dioddefwyr, ac yn Ffynnon Taf mae pentrefwyr wedi llenwi'r clwb rygbi lleol gyda rhoddion.
Fe aeth ystâd ddiwydiannol a meithrinfa dan ddŵr yn llwyr ddydd Sul, gyda'r Little Friends Playgroup yn dweud eu bod wedi "colli popeth" ac y byddai rhieni yn ei chael yn anodd canfod gofal plant rhywle arall yn yr ardal.
Ddydd Sul, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn paratoi i roi arian ychwanegol i awdurdodau lleol yn sgil y difrod.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "[Ddydd Llun], yn ôl y rhagolygon tywydd, byddwn yn gallu dechrau gweld beth sydd angen ei wneud i helpu.
"Mae yna niwed i'r isadeiledd ac mae cartrefi unigol wedi cael llifogydd."
Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ymweld â Phontypridd a Threhafod yn ystod y dydd i gyfarfod rhai o'r bobl oedd wedi'u heffeithio.
Cafodd y storm hefyd effaith ar nifer o ardaloedd eraill gan gynnwys Caerdydd, Sir Fynwy, Castell-nedd, Y Fenni, Crughywel, Caerfyrddin a Llechryd ac yn ogystal bu'n rhaid canslo sawl oedfa mewn capeli yn y gogledd oherwydd y glaw trwm.
Cafodd pentrefwyr yn Nhonna ger Castell-nedd eu cludo o'r pentref ar fysiau fore Sul.
Yn Nantgarw, Rhondda Cynon Taf, roedd dros 100 o gartrefi a dwsinau o geir dan ddŵr dros y penwythnos.
Dywedodd un sy'n byw yno, Susan Fraser, ei bod wedi "edrych i lawr y grisiau yn oriau mân y bore, a gweld soffa yn arnofio ar waelod y grisiau".
"Roedd ein cymuned gyfan dan ddŵr," meddai.
Fe wnaeth Darren Hughes o Resolfen, Castell-nedd Port Talbot, agor caffi ychydig fisoedd yn ôl, ac mae'n dweud ei fod wedi colli degau o filoedd o bunnau wedi i Afon Nedd orlifo.
"Mae cymaint wedi'i ddinistrio. Dyma fusnes y teulu - rydw i, fy ngwraig a fy merch yn gweithio yma a nawr does gennym ni ddim byd," meddai.
"Roedden ni'n gwybod ein bod yn debygol o gael ychydig o ddŵr - rydyn ni wedi cael hynny o'r blaen - ond dydw i erioed wedi ei gweld hi mor ddrwg â hyn."
Yng Nghaerdydd mae'r cyngor wedi dechrau'r gwaith clirio wedi i swm sylweddol o weddillion gasglu yn y bae ar ôl cael ei lusgo yno gan Afon Taf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020