Gostyngiad arall yn nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae canran y bobl ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol i 2.9%, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Bellach mae'r gyfradd ddiweithdra yn is na'r cyfartaledd ar draws y DU.
Rhwng Hydref a Rhagfyr 2019 roedd 45,000 allan o waith yng Nghymru, neu 2.9%, o'i gymharu â 3.8% ar draws y DU dros yr un cyfnod.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos cwymp sylweddol ers dechrau'r flwyddyn, pan oedd 71,000, neu 4.5%, yn ddi-waith yng Nghymru.
Ond mae dadansoddiad o'r ffigyrau gan y BBC yn awgrymu nad yw'r gostyngiad yn y lefelau diweithdra o reidrwydd yn golygu bod mwy o bobl mewn gwaith.
Yn y flwyddyn yn arwain at Hydref i Ragfyr 2019 roedd nifer y bobl yng Nghymru oedd yn anactif yn economaidd 50,000 yn uwch - cynnydd o 3%, sef y mwyaf o holl wledydd a rhanbarthau'r DU.
Mae pobl sy'n anactif yn economaidd yn cynnwys pobl sydd ddim yn gweithio ond ddim chwaith ar gael i weithio oherwydd rhesymau fel salwch, gofal neu astudiaethau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2017
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2018