'Mae gen i ofn troi'n 30. Gwirion, de?'
- Cyhoeddwyd
Mae Llio Maddocks yn troi yn 30 oed eleni. Yma mae'n trafod ei theimladau wrth agosau at y ddegawd nesa', a'r her mae wedi gosod ei hun i gyflawni 30 o bethau gwahanol, uchelgeisiol ac ymarferol, cyn ei phen-blwydd ym mis Medi:
Mae bod yn 29 yn oedran rhyfedd. Mae pobl ifanc yn meddwl mod i'n hen, a phobl hen yn meddwl mod i'n ifanc, a finnau yn teimlo rhywle rhwng y ddau.
Bore 'ma, nes i sefyll o flaen y drych yn tynnu gwallt gwyn o fy mhen tra'n gwylio fideos TikTok.
Dwi'n edrych ymlaen i fynd i Maes B a'r Babell Lên yn Steddfod. Dwi'n dal i fynd allan i glybio, ond fyddai'n cael poen cefn os dwi'n cysgu'n gam.
Dwi ar ganol rhyw bont hir rhwng hen ac ifanc, a dwi'm yn siŵr iawn p'run ydw i.
Mae gen i ofn troi'n 30. Gwirion, de?
Doedd troi'n 30 ddim yn sgeri ers talwm, do'n i ddim yn meddwl bod newid degawd yn golygu newid bywyd o bell ffordd, ond yr agosaf mae o wedi dod, y mwyaf o ofn sydd gen i.
Dwi wedi gwylio fy mywyd yn troi'n fwy diflas, rhywsut, wrth i mi nesu at y big thri-o. Dwi wastad wedi mwynhau teithio, codi pac a mynd i ffwrdd am fisoedd ar y tro. Ond rŵan, dwi'n 29 ac yn chwilio am dŷ, dwi'n mynd i gael morgais i'w dalu bob mis. Dim mwy o fynd ar wyliau bob dau funud.
First world problems go iawn.
30 peth i'w cyflawni cyn troi yn 30
Felly, er mwyn sicrhau mod i'n gwneud y mwyaf o'r hynny sydd ar ôl o fy ugeiniau, penderfynais wneud rhestr o 30 peth yr hoffwn eu cyflawni cyn i mi droi'n 30 oed.
Ges i'r syniad gan ddynes anhygoel nes i ei chyfarfod ar sesiwn gyflwyno Stand Up Paddle-Boarding, ond roedd hi'n gwneud 60 peth cyn troi'n 60 - tipyn mwy o gamp! Ac felly dyma fi'n mynd ati i roi rhestr at ei gilydd.
'Piercings' a thatŵ
Mae 'na ambell beth ymarferol arno; dwi eisiau dysgu crosio siwmper a blanced, a dwi am ddod o hyd i 10 rysait fegan newydd.
Mae 'na rai pethau mwy uchelgeisiol; dwi eisiau cyhoeddi rhai o'm cerddi, dechrau dysgu Cernyweg, a dringo 10 o gopaon uchaf Cymru.
Mae rhai o'r pethau yn eithaf heriol; dwi'n gobeithio ymweld â phum gwlad newydd, ac mi faswn i'n hoffi nofio gyda Manta Rays.
Ac mae ambell beth jest 'chydig yn wirion; dwi am gael piercings newydd, a dwi am gael tatŵ.
Erbyn hyn, dwi hanner ffordd drwy'r flwyddyn a dwi wedi llwyddo i gyflawni rhai o fy ngobeithion yn barod, fel symud i dŷ newydd, dysgu sut i ddringo, gwirfoddoli mwy, ac ymweld â gwledydd newydd; Ffindir, a Cameroon.
Dwi hefyd wedi lliwio fy ngwallt yn binc ac yn oren, er nad oedd fy rhieni yn rhy hapus am hynny.
'Dal i fwynhau bywyd'
Mae cael rhyw fath o checklist yn fy helpu i sylweddoli faint dwi wedi ei gyflawni yn barod yn y chwe mis diwethaf, a bob tro dwi'n edrych ar y rhestr, dwi'n teimlo'n hapusach am gyrraedd y garreg filltir hon.
Os dwi'n gallu cwblhau 30 peth newydd cyn fy mhen-blwydd nesaf, yna mi fydda i wrth fy modd, waeth pa faint o ganhwyllau sydd ar fy nghacen pen-blwydd.
Nid newid bywyd ydi newid degawd, mae'n wir. Dwi'n dal i deimlo'n ddigon ifanc i godi pac a dianc i wlad arall, gwneud camgymeriadau gwirion, neu ddawnsio yn Clwb Ifor Bach tan dri o'r gloch y bore.
Ella bod yr hangovers yn waeth, ond dwi'n dal i fwynhau - hyd yn oed os ydw i'n hŷn!
Felly dyma her i chi i gyd i feddwl be' fyddech chi'n hoffi eu cyflawni cyn eich pen-blwydd nesaf chi.
Oes na ryw dasg sydd wedi bod ar eich rhestr chi ers achau? Rhyw sgil newydd yr hoffech ei dysgu? Rhywle pell neu agos yr hoffech ymweld ag o?
Sgwennwch o i lawr, rhannwch eich bwriad gyda'r byd ac mi fyddech chi lot mwy tebygol o'i gyflawni.
Ac os gwelwch chi fi ym mis Medi, gobeithio y byddaf yn gallu dweud yn fodlon mod i wedi cwblhau y cwbl lot!
A dyma un o gerddi Llio, Pacio, a ddarllenodd ar raglen Bore Cothi. Llio ydy bardd y mis Radio Cymru yn ystod Chwefror 2020.
Pacio
Be ddigwyddodd i ni'n dau
nath bacio'n bywyd fyny
pan oedden ni'n iau
gan gario'n cartref ar ein cefn
fel cranc yn cario cragen?
...............................................
Be ddigwyddodd i ni, hei?
I'r ddau fu'n cyfri cychod
wrth dorheulo ar y cei?
i'r ddau nath ffitio eu holl eiddo
mewn i sach?
...............................................
Ro'n i'n gallu codi'n bywyd cyfan
efo jest un bys bach.
...............................................
Be ddigwyddodd i ni, tybad,
i'r ddau fu'n gwawdio rheiny
oedd yn prynu dodrafn yn lle profiad?
...............................................
Ti'n cofio fi'n deud
mod i isio dim ond tŷ bach
10 metr sgwâr?
...............................................
Ti'n cofio ni'n addo
na fysa ni byth yn berchen
gwely sbâr?
...............................................
A heddiw dwi'n cerdded draw
i'r swyddfa gwerthu tai
i nôl y goriadau i'n tŷ
sydd efo dwy lloft sbâr, dim llai.
...............................................
Dwi di pacio 'mywyd mewn i bedair fan.
Ro'n i'n meddwl fysa hyn yn rhwydd,
ro'n i'n meddwl erbyn hyn sa gen i plan,
y baswn i'n fwy na tŷ a swydd.
...............................................
A ti'n gwenu arnai wrth osod y peiriant
golchi dillad newydd.
Be sy' 'na i swpar? Ti 'di dadbacio'r sosbenni?
Ti'n cofio meddwl 'sa ni byth yn tyfu fyny?
...............................................
Hefyd o ddiddordeb: