'Gormod o bwyslais' ar ddinasoedd dros drefi
- Cyhoeddwyd
Mae "gormod o bwyslais" wedi bod ar fuddsoddi mewn dinasoedd yn hytrach na threfi, medd un arbenigwr adfywio'r stryd fawr.
Dywed yr Athro Cathy Parker fod llywodraethau'r gorffennol wedi blaenoriaethu arian ar gyfer dinasoedd fel Caerdydd yn y gobaith y byddai'n "ymledu allan" i drefi cyfagos, fydd "yn annhebygol o ddigwydd".
Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd trefi yn elwa o gronfa newydd gwerth £90m yn y dyfodol, ac fe fydd gweinidogion yn annog gwasanaethau cyhoeddus i ail-leoli i ganol trefi.
Mae dyfodol trefi ar hyd a lled y wlad wedi dod yn bwnc llosg ers yr etholiad cyffredinol diwethaf.
'Roedd y Rhyl yn arfer ffynnu'
Mae dau ward mwyaf difreintiedig Cymru yn y Rhyl, er bod ardaloedd mwy ffyniannus yn y dref.
Mae camau i adfywio'r dref wedi cynnwys agor parc dŵr a hamdden SC2 ar leoliad yr hen Heulfan, ac mae'r cyngor wedi buddsoddi yn ardal y promenâd.
Mae busnesau lleol wedi datblygu "ardal gwelliannau busnes" yn y dref hefyd.
Bellach mae 13 o ardaloedd o'r math yma yng Nghymru, sy'n cael eu sefydlu gan fusnesau lleol sydd yn talu ffioedd er mwyn gwella'r ardal er mwyn denu ymwelwyr.
Cadeirydd yr ardal welliannau yn y Rhyl yw Nadeem Ahmad.
Mae'n cofio cyfnod pan roedd y Rhyl yn fwy llewyrchus: "Roedd 'na gyfnod pan nad oedd na ddigon o le i bobl gerdded i lawr y stryd fawr.
"Roedd y siopau i gyd yn ffynnu - roedd yn fan gwyliau poblogaidd. Roedd cymaint o westai a busnesau gwely a brecwast. Mae wedi mynd yn anffodus."
Ond mae'n credu bod angen bod yn obeithiol am y dyfodol gan fod y dref gyda llawer i'w gynnig.
"Mae gan y Rhyl draeth sydd yn fendigedig ond nid yw wedi ei gysylltu gyda'r stryd fawr. Ar hyn o bryd ni all neb ei weld".
Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddatblygiadau fydd yn trawsnewid hyn yn y dyfodol.
'Arweinyddiaeth gref'
Dywedodd yr Athro Parker o Brifysgol Manchester Metropolitan: "Mae ardaloedd gwelliannau busnes yn fecanwaith da ar gyfer canolbwyntio ar lawer o bethau sylfaenol sydd angen bod yn gywir mewn tref".
Mae busnesau'n aml yn gweld y manteision o gydweithio er mwyn ceisio cynyddu nifer yr ymwelwyr hyd yn oed os yw hyn yn golygu talu ffioedd ychwanegol ar ben trethi a rhent, meddai.
Ychwanegodd mai'r gyfrinach ar gyfer trawsnewid canol trefi yw arweinyddiaeth gref, fel digwyddodd yn nhref Treorci. Fis yn ôl fe gafodd y stryd fawr yno ei henwi fel yr un orau yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd yr Athro Parker fod gwell siopau a gwasanaethau hamdden yn bwysig ond mewn llawer o drefi mae'r problemau'n ddyfnach na hyn.
"Pan mae ganddo chi lefydd fel y Rhyl gydag amddifadedd economaidd dwfn iawn...rhaid i chi edrych ar y problemau mae cymunedau'n ei wynebu. Mae lefelau cyflogaeth isel, cyflogau is, problemau iechyd - rhaid ateb yr heriau hyn ond canol trefi yw'r lle i wneud hynny.
"Gwnewch yn siŵr fod mwy o gyfleoedd gwaith, addysg, colegau, canolfannau iechyd a phethau eraill fydd yn dechrau ateb gofynion y gymuned yn hytrach na meddwl am fanwerthu a siopa a chael latte da."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2017