Y Gynghrair Genedlaethol: Bromley 0-2 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Llwyddodd Wrecsam roi hwb i'w gobeithion o aros yn y Gynghrair Genedlaethol wrth iddyn nhw drechu Bromley oddi cartref ddydd Sadwrn.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 11 munud, gyda Davis Keillor-Dunn yn rhwydo ei gôl gyntaf i'r clwb yn dilyn rhediad gwych trwy amddiffyn Bromley.

Fe wnaeth Wrecsam selio'r fuddugoliaeth yn y munudau olaf, gyda Jordan Ponticelli yn sgorio'r tro hwn.

Mae'r canlyniad yn codi Wrecsam i'r 17eg safle yn y Gynghrair Genedlaethol, ond ddau bwynt yn unig o safleoedd y cwymp.